Ymunwch yn y dathliadau ar y 25 Chwefror wrth i Ddiwrnod Arloesi Cyflymu Cymru daflu goleuni ar bopeth sy'n ymwneud â thechnoleg ac arloesi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd Diwrnod Arloesi Cyflymu Cymru yn rhedeg ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a phartneriaid cysylltiedig, gan alw ar fusnesau, mentrau ac entrepreneuriaid i ymuno a rhannu eu straeon.
Mae'r digwyddiad digidol hwn yn cynnig llwyfan i arloeswyr hyrwyddo'r gwaith ysbrydoledig sy'n digwydd ledled Cymru, ac ysbrydoli eraill i ddechrau trosi eu syniadau yn realiti.
Sut allwch chi gymryd rhan?
Trwy gydol y Diwrnod Arloesi ar 25 Chwefror 2021, anogir busnesau i gyfrannu eu straeon arloesi iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfryngau cymdeithasol. Yna bydd y rhain yn cael eu hail-rannu ar draws sawl platfform i gyrraedd cynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Gall unrhyw un gymryd rhan - gallwch ymuno trwy ddefnyddio'r hashnod #AWID2021 a dilyn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar draws eu sianeli cyfryngau cymdeithasol:
I gael pecyn ymgysylltu â rhanddeiliaid, sy'n llawn awgrymiadau a syniadau ar sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch ag alun.franks@lshubwales.com.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hub Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae’r rhaglen Cyflymu wedi cefnogi busnesau ac entrepreneuriaid anhygoel o bob rhan o Gymru i drosi eu syniadau i atebion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy’n falch iawn bod y Diwrnod Arloesi Cyflym yn darparu platfform i arloeswyr arddangos sut maen nhw'n helpu i wneud Cymru yn lle ar gyfer arloesi iechyd, gofal a lles.”
Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesi yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae gan Gymru hanes hir a balch o arloesi. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw at arloesi iechyd a gofal cymdeithasol gan ddangos ei fod yn bwysicach nag erioed ar gyfer iechyd a lles economaidd ein cenedl. Mae'r Diwrnod Arloesi Cyflymu yn gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau Cymru. Ni allwn aros i glywed am y straeon llwyddiant anhygoel gan fusnesau ac arloeswyr sy'n helpu i wneud Cymru yn lle dewis ar gyfer arloesi iechyd, gofal a lles. "
Dywedodd Samantha Wheeler, Admiral of ops a Chyfarwyddwr yn Big Lemon (un o brif ddatblygwyr apiau a dylunwyr gwefannau Cymru):
“Mae Big Lemon yn ymuno i ddathlu arloesedd yng Nghymru i ddathlu, cefnogi a thywynnu goleuni ar bobl a sefydliadau sydd yn gwneud pethau'n wahanol ac ysbrydoli eraill, sy'n teimlo'n bwysicach nag erioed ar hyn o bryd."
Sut y gall Cyflymu fy nghefnogi?
Cefnogir Diwrnod Arloesi Cyflymu Cymru gan y rhaglen Cyflymu. Mae Cyflymu yn gydweithrediad arloesol rhwng prifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae'n helpu i drosi syniadau arloesol yn dechnoleg, cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal, yn gyflym.
Gwyliwch rai o'r straeon ysbrydoledig am arloesi y mae'r rhaglen Cyflymu wedi'u cefnogi hyd yn hyn.
Peidiwch â cholli allan ar ddathlu arloesedd Cymru
Gall unrhyw un gymryd rhan - gallwch ymuno trwy ddefnyddio'r hashnod #AWID2021 a dilyn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar draws eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.
I gael pecyn ymgysylltu â rhanddeiliaid, sy'n llawn awgrymiadau a syniadau ar sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch ag alun.franks@lshubwales.com.