Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydyn ni wedi adnewyddu ein partneriaeth ag M-SParc ar gyfer 2026/27, gan barhau â’n gwaith ar y cyd i gryfhau arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gogledd Cymru. 

An image of north Wales

Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni drwy’r rhaglen Iechyd a Mwy, sy’n cael ei hariannu gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’i darparu gan M-SParc. Mae’r bartneriaeth yn dod â rhwydweithiau cenedlaethol ac arbenigedd rhanbarthol at ei gilydd i helpu arloeswyr, busnesau ac ymchwilwyr i ddatblygu atebion i heriau iechyd go iawn.

Mae’r bartneriaeth yn dod â rhwydweithiau cenedlaethol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac arbenigedd rhanbarthol M-SParc at ei gilydd i helpu arloeswyr, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ymchwilwyr a phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu atebion sy’n mynd i’r afael â heriau gwirioneddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu llwybrau cliriach at gymorth ac yn helpu syniadau addawol i symud yn nes at gael eu defnyddio yn y byd go iawn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r bartneriaeth wedi helpu i adeiladu ecosystem arloesi fwy cysylltiedig yng ngogledd Cymru. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi arloeswyr fel Healthcare Matters i fireinio eu cynnig, deall y dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yn well a chysylltu â rhwydweithiau arloesi ehangach.

Gan adeiladu ar y flwyddyn gyntaf, bydd cynnig diwygiedig Iechyd a Mwy ar gyfer 2026/27 yn helpu i wneud cymorth arloesi yn fwy gweladwy, hygyrch a chydlynol ar draws gogledd Cymru. Bydd M-SParc hefyd yn arwain cyfres o sioeau teithiol ar draws y rhanbarth, gan godi ymwybyddiaeth o Iechyd a Mwy a chysylltu busnesau, ymchwilwyr, clinigwyr ac arloeswyr â’r cymorth sydd ar gael.

Mae ceisiadau ar gyfer y garfan Iechyd a Mwy nesaf nawr ar agor tan 01.11.2026, gan roi cyfle i arloeswyr, busnesau ac ymchwilwyr ledled gogledd Cymru gael gafael ar gymorth, cyngor a chysylltiadau wedi’u teilwra i bartneriaid perthnasol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth strwythuredig i’w helpu i ddatblygu eu syniadau.

Dywedodd Adam Spiby, Rheolwr Gyfarwyddwr Healthcare Matters:

“Mae rhaglen Iechyd a Mwy wedi bod yn amhrisiadwy ar gam allweddol yn ein taith, gan ddarparu anogaeth, mewnwelediad strategol a mynediad at ecosystem arloesi ehangach. Mae’r cyfleoedd fel y Panel Iechyd a Mwy wedi ein helpu i fireinio cynnig Sentrix a meithrin hygrededd. 

Roedd yr ymgysylltu, y pwyntiau cyswllt amserol a’r gefnogaeth barhaus yn rhoi anogaeth i ni symud o gysyniad cychwynnol i sefydlu Sentrix fel menter gofal digidol bwrpasol. Mae’r pwynt cyswllt dibynadwy hwn drwy raglen Iechyd a Mwy wedi rhoi cipolwg, hyder a mynediad at gyfleoedd a fydd yn cefnogi ein twf a’n cydweithrediad yn y dyfodol.”

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae gan ogledd Cymru gymuned arloesi gref sy’n tyfu, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod syniadau gwych yn cael y cyfle gorau posibl i symud ymlaen.

Mae parhau â’n partneriaeth ag M-SParc yn cyfuno eu gwybodaeth a’u cysylltiadau ar draws y rhanbarth â’n rhwydweithiau a’n harbenigedd cenedlaethol. Drwy ddod â diwydiant, y byd academaidd, y GIG a phartneriaid ehangach at ei gilydd, gallwn helpu arloeswyr i ddatblygu atebion sy’n ymateb i anghenion iechyd go iawn ac yn gwella canlyniadau i bobl, cleifion a gwasanaethau ledled Cymru.”

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, M-Sparc:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’n partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac at fynd ag Iechyd a Mwy i’w gam nesaf. Rydyn ni’n gwybod bod arloesi anhygoel yn digwydd ledled gogledd Cymru, a’n nod yw ei gwneud hi’n haws i’r arloeswyr hynny gael gafael ar yr arbenigedd, y cysylltiadau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i droi syniadau gwych yn effaith yn y byd go iawn.

“Os ydych chi’n fusnes, ymchwilydd, clinigydd neu arloeswr sydd â syniad neu ddatrysiad a allai helpu i fynd i’r afael â her iechyd neu ofal cymdeithasol, byddem yn eich annog i wneud cais. Does dim rhaid i chi fod wedi meddwl am bopeth — dyna’n union beth mae Iechyd a Mwy yma i’ch helpu chi ag ef.”

Mae rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth hon ar gael ar dudalen rhaglen M-SParc.