Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio dyfeisiau prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau ar gyfer pobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau uchaf.
Yn sgil ail-asesu dyfeisiau prostheteg myodrydanol aml-afael, mae canllaw HTW yn dod i'r casgliad nad yw tystiolaeth ar y defnydd o'r dechnoleg ar gyfer pobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau uchaf yn ddigonol i gefnogi eu mabwysiadu fel mater o drefn.
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn arfarnu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol anfeddygol, ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.
Mae canllaw Technoleg Iechyd Cymru yn nodi bod y manteision o ddefnyddio dyfeisiau prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau o’u cymharu â mathau eraill o ddyfeisiau prostheteg ar gyfer pobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau uchaf yn ansicr, ac y dylai eu defnydd presennol ddibynnu ar anghenion cleifion unigol.
Gallwch ddarllen y canllaw yn llawn yma: https://healthtechnology.wales/reports-guidance/multigrip-upper-limb-prosthetics/