Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi lansio galwad pwnc agored i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol a allai wella bywydau pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru.

Various cancer ribbons

Mae Technoleg Iechyd Cymru (TIC) gwahodd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, datblygwyr technoleg, academyddion, ac aelodau'r cyhoedd i gyflwyno eu syniadau.

Bydd HTW, sy'n arfarnu technolegau iechyd a gofal anfeddygol ac sy'n cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ynghylch p’un a ddylid eu defnyddio yng Nghymru neu beidio, yn asesu'r dystiolaeth sydd ar gael ar bob technoleg iechyd digidol a gyflwynir.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud wedyn ynghylch p’un a oes digon o dystiolaeth i gyhoeddi canllaw a allai gefnogi defnyddio’r dechnoleg yng Nghymru.

Mae enghreifftiau blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â chanser y mae HTW wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol arnynt, yn cynnwys:

Yn ôl Cancer Research UK, bydd 1 o bob 2 berson yn y DU yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes. Bob blwyddyn, mae tua 19,500 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser.

Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan yn y galwad pwnc agored wneud hynny drwy fynd i'r dudalen Awgrymu Pwnc ar wefan Technoleg Iechyd Cymru.