Mae dod â gofal yn nes at adref yn flaenoriaeth graidd i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r DU. Mae’r Sefydliad Iechyd yn manteisio ar y dirwedd arloesi sy’n datblygu gyda’i raglen gyllido newydd Tech for Better Care. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar archwilio potensial technolegau newydd sy’n galluogi gofal yn y cartref ac yn y gymuned.
Bydd y rhaglen yn cefnogi hyd at chwe thîm o bob rhan o’r DU dros 18 mis drwy broses arloesi tri cham sy’n cynnwys datblygu, profi a threialu prosiectau arloesi. Rhaid i’r prosiectau ganolbwyntio ar y perthnasoedd gofalu a galluogi sydd eu hangen rhwng y rheini sy’n darparu gofal a’r rheini sy’n derbyn gofal er mwyn helpu pobl i fyw bywyd mwy annibynnol lle bo hynny’n bosibl.
Y nod yw rhoi’r cyllid, yr adnoddau a’r arbenigedd sydd eu hangen ar dimau i lansio syniadau newydd, a’r uchelgais cyffredinol yw dangos ffordd newydd o ddarparu gofal rhagweithiol drwy fanteisio ar dechnolegau newydd.
Mae’r rhaglen ar gyfer darparwyr gofal, dan arweiniad sefydliadau yn y DU, sy’n gyfrifol am ddarparu gofal yn y cartref, mewn lleoliadau preswyl neu yn y gymuned. Gall darparwyr gofal fod yn sefydliadau’r GIG, cwmnïau buddiannau cymunedol, mentrau cymdeithasol, awdurdodau lleol neu ddarparwyr preifat annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, ewch i wefan y Sefydliad Iechyd.