Mae sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn gweithredu’n uniongyrchol ar unwaith i fynd i’r afael ag amseroedd aros a gwella canlyniadau cleifion drwy weithio’n arloesol ac mewn partneriaeth.

Doctor consulting with patient

Mae’r GIG yn dal i wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes. Roedd y pandemig wedi lleihau cynhyrchiant y gwasanaeth yn ddifrifol ac mae’n dal i lesteirio ei allu i adfer ar adeg pan fo’r ôl-groniad ar gyfer y gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol yn cynyddu. Mae’r amseroedd aros sylweddol hyn am ofal wedi’i gynllunio yn cael effaith niweidiol ar fywydau cleifion, ond mae arweinwyr a staff y GIG yn gweithio’n ddiflino i fynd drwy’r ôl-groniad gyda’r adnoddau ariannol cyfyngedig a’r staff sydd ar gael.

Yn ystod y pandemig, dangosodd sefydliadau’r GIG y gallent arloesi’n gyflym, ac mae’r un ffordd o feddwl yn greadigol yn cael ei defnyddio i leihau rhestrau aros. Mae’r briff diweddaraf hwn gan Gonffederasiwn GIG Cymru yn cynnwys enghreifftiau o arfer gorau sy'n dangos sut mae sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn mynd i’r afael â’r ôl-groniad mewn gofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys helpu cleifion i ‘aros yn iach’. Er enghraifft, mae’r Gwasanaeth Gwella Lles a lansiwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu ymyriadau anfeddygol i wella iechyd a lles pobl tra byddant ar restrau aros penodol.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae’r prosiect i dargedu cleifion gyda Methiant y Galon gyda Ffracsiwn Alldafliad Llai (HFrEF) wedi lleihau’r amser aros cyfartalog am apwyntiad cyntaf gan chwe wythnos, a’r amseroedd aros cyfartalog am apwyntiadau cyntaf ac ail apwyntiadau i gleifion allanol gan 50 y cant. At hynny, ni chafodd 97 y cant o gleifion yn y treial eu hanfon yn ôl i’r ysbyty â diagnosis cyntaf o fethiant y galon ac arweiniodd y gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn cael eu hanfon yn ôl i’r ysbyty at arbedion cost o £260,208.

Dywedodd Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes:

“Mae arweinwyr y GIG ledled Cymru yn gwybod bod her enfawr o’n blaenau er mwyn mynd i’r afael â’r ôl-groniad mewn gofal wedi’i gynllunio o ganlyniad i bandemig di-ildio Covid. Mae’r astudiaethau achos yn ein briff yn dangos rhywfaint o’r gwaith caled, arloesedd a’r camau i drawsnewid gwasanaethau sy’n mynd rhagddynt ar draws y GIG yng Nghymru.

Er bod y rhestrau aros yn dal i dyfu, mae cyfradd y twf yn arafu o fis i fis. O ystyried effaith y pandemig, gyda chleifion yn dod ymlaen yn hwyrach, mae achos i fod yn eithaf optimistaidd.

Fodd bynnag, er mwyn cymryd camau breision ymlaen o ran amseroedd aros gofal wedi’i gynllunio, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r bwlch yn y capasiti ar draws meysydd cydnerthedd ariannol, buddsoddiad cyfalaf a’r gweithlu iechyd a gofal. Mae’r GIG yn llawn staff ac arweinwyr ymroddedig, ond ni allant wneud gwyrthiau ac maen nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod y pwysau aruthrol ar draws y system gyfan, ar feddygon teulu, fferyllfeydd, a gwasanaethau cymunedol eraill, yn ogystal â nifer y cleifion nad oes modd eu rhyddhau o’r ysbyty oherwydd y pwysau parhaus sy’n wynebu gofal cymdeithasol. Heb fuddsoddiad cynaliadwy, hirdymor yn y sector gofal cymdeithasol, dim ond hyn a hyn y gall y GIG ei wneud i wella llif cleifion drwy ysbytai a darparu gofal amserol.”

Cyflwyno eich newyddion 

Os oes gennych chi eitem newyddion sy’n ymwneud ag arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, anfonwch eich testun yn Gymraeg a Saesneg i helo@hwbgbcymru.com a byddwn yn gwneud ein gorau i’w gyhoeddi drwy wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’i rannu ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.