Mae Arloesedd Anadlol Cymru (AAC) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ymuno unwaith eto ar gyfer yr ail ddigwyddiad yn y gyfres o ddigwyddiadau RIW Ar-lein, sy’n canolbwyntio ar Ofal Iechyd sy’n seiliedig ar Werth ym maes iechyd anadlol ledled Cymru. Bydd y digwyddiad Arloesedd i sicrhau Gwerth mewn Gofal Iechyd Anadlol yn cael ei gynnal ar 1 Mehefin am 10am, ac mae'r cyfnod cofrestru wedi agor.

Lung Health Image

Mae AAC ac Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar fin cydweithio ar ail ddigwyddiad, a fydd yn gyfle i rwydweithio ac ymgysylltu â chydweithwyr yn y diwydiant ac ym maes iechyd ynghylch Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth. Ymunwch â ni yr wythnos nesaf i glywed am dair astudiaeth achos o’r byd go iawn, ac i rwydweithio ag unigolion sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y maes hwn.

Mae Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn ddull trawsnewidiol o ddylunio a darparu atebion gofal sy’n cynnig y gwerth gorau i’r bobl sy’n eu derbyn, am y gost isaf bosibl i systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n hollbwysig ym maes arloesedd anadlol, gyda chlefydau anadlol yn achosi un o bob saith marwolaeth yng Nghymru.

Mae Arloesedd Anadlol Cymru yn sefydliad sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo weledigaeth “i fod yn borth sydd gyda’r gorau yn y byd ar gyfer arloesedd anadlol”. Cafodd lansiad wyneb yn wyneb ei ohirio y llynedd oherwydd y pandemig, a chafodd cyfarfod ar-lein ei gynnal ym mis Chwefror yn lle hynny. Ymunodd criw mawr ac amrywiol o gydweithwyr yn y diwydiant ac ym maes iechyd â’r cyfarfod ar-lein, gydag amrywiaeth o siaradwyr yn trin a thrafod cyd-destun y maes anadlol yng Nghymru. 

Gydag athroniaeth debyg i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru o ddod â’r GIG, y byd Academaidd a Diwydiant ynghyd, mae AAC yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i ‘wella arloesedd yr ysgyfaint’. Mae’r gwasanaethau’n amrywio o waith ymgynghori i addysg, hyfforddiant a dull cydweithredol o ymchwilioces Hub Wales, bringing the NHS, Academia, and Industry together, AAC offer a range of services to ‘accelerate and translate respiratory innovation’. Services range from consultancy work, through to education, training and a collaborative approach to research.

Dywedodd Chris Subbe, Arloesedd Anadlol Cymru, Arweinydd Dyfeisiau Arloesedd Anadlol Cymru:

"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr o iechyd a diwydiant i ail gydweithrediad Arloesi Anadlol Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae hwn yn gyfle unigryw i ymgysylltu ag arbenigwyr anadlol a thrafod y hyn a ddysgwyd o astudiaethau achos go iawn ym maes iechyd."