Mae arbenigwyr wedi cefnogi galwad am i'r GIG gyflwyno cynllun ymarfer corff digidol, arloesol gyda'r nod o fynd i'r afael â chynnydd digynsail mewn cyflyrau cardio-arennol-metabolaidd (CKM) fel clefyd y galon, clefyd yr arennau, diabetes a gordewdra.

Mae cyfraddau clefyd CKM yn cynyddu mor gyflym nes bod elusen Ymchwil Arennau’r DU wedi disgrifio’r sefyllfa fel “argyfwng iechyd cyhoeddus” – gan rybuddio y gallai’r gost i’r economi godi o £7 biliwn i bron £14 biliwn mewn cyn lleied ag wyth mlynedd.
Mewn papur gwyn newydd "Ailddychmygu adsefydlu ar gyfer pobl sydd â chyflyrau cardio-arennol-metabolaidd - o anweithgarwch i rymuso", mae grŵp o glinigwyr, ymchwilwyr a chleifion yn cefnogi'r achos dros gyflwyno rhaglen addysg a therapi corfforol ddigidol arbenigol, y profwyd mewn treial clinigol pwysig ei bod yn gwella iechyd ac yn arwain at lai o gostau i’r gwasanaeth iechyd.
Mae’r Athro Jamie Macdonald, Athro mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Bangor, yn gyfrannwr allweddol i’r papur. Dywedodd:
“Mae ansawdd bywyd yn waeth o lawer mewn pobl sy’n byw gyda chlefyd yr arennau. Mae llawer o’r ffactorau sy’n achosi ansawdd bywyd gwael yn ymwneud â gweithrediad corfforol gwael, cydafiachedd fel clefyd cardiofasgwlaidd, symptomau fel blinder, ac effeithiau seicolegol fel iselder. Yn galonogol, gellir addasu llawer o’r achosion hyn drwy adsefydlu. Mae angen i ni gael gwared ar bob rhwystr posibl sy’n atal y bobl hyn rhag cymryd rhan mewn adsefydlu.”
Dywedodd yr Athro Sharlene Greenwood, ffisiotherapydd ymgynghorol yn King’s College Hospital Llundain ac awdur y papur:
“Gall gwneud mwy o weithgarwch corfforol a gwella sut rydych chi’n rheoli eich ffordd o fyw gael effaith ddofn ar arafu datblygiad y clefyd – ond dim ond 3 o’r 72 uned yn y GIG sy’n cynnig adsefydlu penodol dan arweiniad ffisiotherapydd ar gyfer y garfan hon o gleifion. Mae’r argyfwng acíwt o ran gweithlu yn gwaethygu’r sefyllfa ymhellach.”
“Mae’n amlwg bod angen atebion arloesol ar frys y gellir eu cyflwyno ar raddfa fwy. Dim ond adnoddau digidol – wedi’u hategu gan arbenigedd clinigol pobl – sy’n gallu arwain at ymyriadau sy’n ddigon mawr i ateb y galw aruthrol sydd ar y gorwel.”
Mae’r cynnydd brawychus mewn cyflyrau CKM yn peri heriau economaidd a chymdeithasol mawr i’r DU, gyda chlefyd yr arennau yn effeithio ar 7.2 miliwn o bobl, diabetes ar 6 miliwn o bobl a chlefyd cardiofasgwlaidd ar 7.2 miliwn o bobl. Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod y clefydau hyn yn aml yn cydfodoli ac yn gwaethygu ei gilydd, gan greu cymhlethdod a chostio degau o biliynau o bunnoedd i’r GIG eu trin.
Yn ôl Sefydliad Kidney Wales, mae 93,722 o bobl wedi cael diagnosis o glefyd cronig yr arennau yng Nghymru ar gamau 1-5 o salwch.
Gellir lleihau’r risg o farwolaeth hyd at draean yn y grŵp hwn o gleifion os ydynt yn gwneud ymarfer corff, ac maent 21% yn llai tebygol o fod angen opsiynau triniaeth dwys fel trawsblaniadau neu ddialysis.
Yn y papur gwyn newydd, cyflwynir tystiolaeth gref o dreial clinigol a gyhoeddwyd yn Lancet Digital Health y llynedd, sy’n dangos gwelliant sylweddol mewn canlyniadau iechyd i gleifion a gwblhaodd y rhaglen adsefydlu 12 wythnos ar lwyfan iechyd digidol Kidney Beam. Ar ben hynny, canfuwyd bod yr ymyriad yn arbed bron i £600 y claf – a rhagwelir y byddai’n arbed dros £140 miliwn i’r GIG yn sgil llai o dderbyniadau i’r ysbyty, apwyntiadau meddygol a gwariant ar feddyginiaethau dros dair blynedd.
Dywedodd Sandra Currie OBE, prif weithredwr Ymchwil Arennau’r DU ac awdur rhagair y papur:
“Mae Ymchwil Arennau’r DU yn awyddus i dynnu sylw ar frys at y twf cyflym yn nifer yr achosion o glefyd yr arennau a’r ffactorau risg cysylltiedig. Mae technoleg yn adnodd hanfodol i sicrhau bod gofal cleifion yn cael ei flaenoriaethu ar yr adeg dyngedfennol hon.”
"Mae treial clinigol yr Athro Greenwood wedi cadarnhau bod pobl sy'n defnyddio'r llwyfan yn gweld gwelliannau yn eu hiechyd meddwl, eu gweithrediad corfforol, eu lefelau egni a'u gallu i hunanreoli eu cyflyrau ... ac mae'n cynnig arbedion cost sylweddol i'r GIG. Mae’r dystiolaeth yn glir ac mae’n bryd i ni weithredu. Rhaid i ni sicrhau bod yr ymyriad hwn sy’n newid bywydau ar gael ym mhob rhan o’r GIG”.
Mae’r papur hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan leisiau blaenllaw o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Arennau, Cymdeithas Arennau’r DU, Rhwydwaith Cyflawni Ymchwil NIHR a Chymdeithas Arennau Ardal Sheffield.