Mae Cyflymydd Arloesi Clinigol (CIA) yn derbyn Gwobr Effaith Werdd fawreddog y Cenhedloedd Unedig

Green impact award image

Rhaglen lwyddiannus y Cenhedloedd Unedig yw Effaith Gwyrdd sydd wedi’i chynllunio i gefnogi arferion amgylcheddol a chymdeithasol cynaliadwy o fewn sefydliadau ac yn canolbwyntio ar hwyluso newid mewn ymddygiad.

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o sawl sefydliad byd-eang sy’n cymryd rhan yn y rhaglen unigryw hon.   

Mae’n gyfle i ddod â staff a myfyrwyr o bob cefndir, campws a chwricwlwm

 at ei gilydd i gyflwyno newid amgylcheddol positif.  

Yn 2019, fe wnaeth yr Hyb Arloesi Clinigol, sy’n rhan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, a chartref y Sbardunwr Arloesi Clinigol, ddechrau cymryd rhan gydag Effaith Gwyrdd.

Yn ogystal ag ymgysylltu â Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd, mae wedi bod yn gyfle i gyfrannu at themâu trawsbynciol y rhaglen Cyflymu.

Er gwaethaf yr oedi a’r newidiadau i arferion gweithio’r rhaglen yn sgil COVID, llwyddodd yr Hyb Arloesi Clinigol i dderbyn y wobr efydd gydag anrhydedd yn y flwyddyn academaidd 2019-2020.

Logo Green Impact

Er bod oedi pellach wedi bod wrth agor Rhaglen Effaith Gwyrdd 2021, mae Tîm Effaith Gwyrdd yr Hyb Arloesi Clinigol newydd ddechrau’r gwaith ar gyflwyniad eleni.

Gyda phwyslais newydd ar weithio gartref ac i wreiddio 17 o Nodau Datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, mae’r rhaglen eleni wedi arwain at nifer o newidiadau.

O safbwynt y tîm, mae ein rôl wedi tanlinellu pwysigrwydd arferion cynaliadwy, a’r hyn y gallwn ei ddysgu wrth ein gilydd i gefnogi’r broses o wneud ein gwelliannau ein hunain.

Er mwyn ymdrechu i wella, bydd yr Hyb Arloesi Clinigol yn mynd am y wobr arian eleni (2il Mehefin).