Mae'r rhaglen Cyflymu yn cefnogi gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn ymuno â menter gymdeithasol o Gwm Cynon i ystyried manteision 'rhagnodi cymdeithasol' gwyrdd ar iechyd, lles ac ansawdd bywyd

a photo of people digging

Mae 'rhagnodi cymdeithasol' gwyrdd yn gweithio trwy alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i atgyfeirio pobl at weithgareddau sy'n seiliedig ar natur - fel garddio neu weithgareddau awyr agored - gan ddod â manteision meddyliol a chorfforol.

Mae tîm dan arweiniad yr Athro Les BaillieYsgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn ymuno ag Cynon Valley Organic Adventures (CVOA) - menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf - i ddatblygu llwybr natur.

Mae CVOA mewn coetir a gardd gymunedol hardd pum erw. Ar hyn o bryd mae’n cynnig gweithgareddau lles, dysgu achrededig sy'n chwalu'r rhwystrau rhag dysgu, a gwaith ac ysgol haf i blant rhwng 5 a 12 oed.

Gan weithio gyda'r gymuned, bydd y bartneriaeth yn datblygu llwybr natur yn Abercynon a fydd yn cynnig cyfleoedd i bobl ar gyfarwyddyd meddygon teulu ac aelodau o'r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur, er mwyn gwella eu lles personol.

Dywedodd Janis Werrett, sylfaenydd Cynon Valley Organic Adventures:

“Rydyn ni'n falch iawn o fod yn bartner gyda Phrifysgol Caerdydd ac Accelerate i greu llwybr natur a fydd yn helpu i fesur manteision rhagnodi cymdeithasol. Rwy'n gwybod o brofiad personol, wrth i chi feithrin natur, bod natur yn eich meithrin chithau. Sefydlodd tri ohonom CVOA yn 2018. Wrth i ni dorri danadl poethion oedd wedi bod yno am bum mlynedd a gosod ffensys ar ein safle, dechreuodd ein lles wella. Yn union fel y tyfodd yr ardd, fe wnaethon ni dyfu'n iachach ac yn hapusach.”

Mae gardd bywyd gwyllt CVOA yn dod â phobl ynghyd i dyfu a choginio bwyd a datblygu cyfeillgarwch newydd. Sefydlodd y fenter gyrsiau dysgu achrededig yn 2019 i gynhyrchu incwm, a helpodd yn ei dro i brynu’r tir yn 2020 gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Yn ôl yr Athro Baillie:

“Wrth ei wraidd, mae ein partneriaeth yn ymwneud â chreu llwybr natur cymunedol yn Abercynon. Nod Prifysgol Caerdydd yw cefnogi'r gymuned, a chynnig arbenigedd gan grwpiau fel ein prosiect Pharmabees i helpu CVOA i greu mannau sy’n gyfeillgar i beillwyr ac i baratoi adnoddau addysgol cysylltiedig.

Mae rhagnodi gwyrdd yn amserol iawn, ond mae angen tystiolaeth wyddonol fwy cadarn i helpu cymdeithas i gael gwell dealltwriaeth o'r manteision y gall ei gynnig i fywydau pobl. Byddwn yn gweithio gyda meddygon teulu lleol a chleifion yn Nyffryn Cynon i nodi sut y gall cysylltu â natur hybu iechyd a lles. Bydd cofnodi profiadau cleifion o'r llwybr natur yn ein helpu i gynhyrchu rhywfaint o ddata go iawn am y manteision."

Mae'r bartneriaeth yn rhan o Genhadaeth Ddinesig Prifysgol Caerdydd, i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau, sefydliadau a chymunedau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru, y DU ac yn rhyngwladol i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a gwella lefelau iechyd, cyfoeth a lles.

Beth yw'r rhaglen Cyflymu?

Mae'r rhaglen Accelerate yn cydweithrediad arloesol rhwng prifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy'n helpu i drosi syniadau arloesol yn gynhyrchion newydd.