Roedd y rhaglen yn cael ei chynnal rhwng 2018 a 2022, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, y partneriaid a byrddau iechyd Cymru.  

Dyma’r sefydliadau partner yn y rhaglen - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyflymu Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Roedd y partneriaid hyn yn darparu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd fel darparu gofal iechyd a datblygu economaidd, ymchwil biofeddygol, a thechnoleg dyfeisiau meddygol. Roedd y gwasanaethau eraill a gynigir yn cynnwys hyfforddiant a chymorth marchnata a chyfathrebu, cysylltu arloeswyr ag arweinwyr priodol mewn meysydd perthnasol a helpu pobl i lywio drwy’r ecosystem gwyddorau bywyd.