Yn yr podlediad 'Healthy Thinking' cyntaf oddi wrth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syr Sam Everington - arloeswr blaenllaw mewn ymarfer cyffredinol - yn egluro sut mae rhagnodi cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i gleifion a'i cymunedau.
Mae rhagnodi cymdeithasol yn cysylltu cleifion mewn gofal cynradd efo ffynonellau o gymorth tu fewn eu cymunedau lleol i'w helpu gwella'u iechyd a lles eu hun.
“Mae gennym un o'm rhaglenni - ymddiriedaeth iechyd meddyliol (sydd wedi) lleihau derbyniadau llym tua draean," dywedai Syr Sam. "Mae hynny'n syfrdanol. Sut? Fe wnaethon nhw agor caffi saith dydd yr wythnos, yn cael eu staffio gan weithwyr iechyd meddwl. Dyna ydy rhagnodi cymdeithasol."
Yn y rhaglen, mae Syr Sam yn dweud wrth Cadeirydd yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Syr Mansel Aylward, sut mae rhagnodi cymdeithasol yn trawsnewid gofal iechyd ac yn rhannu ambell i astudiaethau achos llwyddiannus a sut mae ymarferwyr wedi ei gofleidio.
A, os ydych chi'n siaradwr Cymraeg, bydd y trafodaeth yn parhau ar ein podcast Gymraeg, 'Syniadau Iach'.
Sara Thomas, Ymgynghorydd mewn meddygaeth iechyd cyhoeddus ym Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn trafod rhagnodi cymdeithasol a gwaith Syr Sam efo cyflwynydd a Aelod Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Rhodri Griffiths.
"Mae'n synnwyr cyffredin i ni i fynd at wraidd y broblem", dywedai Sara. "Bydd yn rhoi hyder i unigolion i wneud rhywbeth dros eu hunain. Gall hwn gynnwys nifer of gweithgareddau, fel gwirfoddoli, gweithgareddau artistig, garddio a amryw o chwaraeon."
Mae podlediad 'Healthy Thinking' yn clywed wrth arloeswyr, arweinwyr a ddylanwadwyr allweddol sy'n dangos ymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gweithredu atebion arloesol.
Dywedodd Yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Mae'r podlediad newydd yma yn galluogi ni i rhannu'r trafodaethau rydym yn cael efo'n arweinwyr a arloeswyr uwch, nid yn unig yng Nghymru ond ledled yr DU a rhyngwladol. Mae'n chyfle dda i sbarduno'r meddwl a fynd i'r afael ag arloesedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."
Gallech gwrando ar gyfweliad Syr Sam ar 'Healthy Thinking' a Sara Thomas yn trafod rhagnodi cymdeithasol ar 'Syniadau Iach.