Trydydd parti

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau uchelgeisiol i wella’r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol ac i fynd i’r afael ag allgáu digidol. Maent wedi comisiynu adroddiad newydd sy’n nodi meysydd allweddol ar gyfer datblygu, cefnogi a blaenoriaethu arloesedd digidol yng Nghymru.

People sat in a row using laptops, smartphones, and tablets

Wrth i arloesi digidol fynd rhagddo ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae cynhwysiant digidol yn dal yn flaenoriaeth uchel. Er bod y rhan fwyaf o bobl wedi’u cysylltu’n ddigidol drwy fynediad i’r rhyngrwyd a’u bod yn gallu defnyddio technolegau newydd, mae rhai pobl ledled Cymru wedi’u hallgáu o fawredd y datblygiadau digidol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ben hynny, mae anghydraddoldebau ar draws y systemau gofal cymdeithasol yn dal yn rhwystr rhag mabwysiadu arloesiadau digidol.

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r dirwedd ddigidol bresennol ar draws y wlad, roedd Gofal Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu Basis i greu adroddiad a fyddai’n eu helpu i symud ymlaen o ran cefnogi arloesedd digidol ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Drwy weithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a phartneriaid am dri mis, edrychodd Basis ar y systemau cefnogi presennol sydd ar waith i ganfod beth sy’n gweithio a lle mae bylchau o hyd yng Nghymru.

Mae’r prif feysydd i’w datblygu a nodwyd yn yr adroddiad yn dangos bod angen gwell arweiniad a chydlyniad strategol, gwelliant mewn prosesau adolygu, a bod bylchau yn sgiliau’r gweithlu. Yn ganolog i’r adroddiad, roedd pwyslais ar gynnwys rhanddeiliaid ar bob lefel, yn cydweithio i sicrhau bod arloesedd digidol yn gallu ffynnu yng ngwasanaethau gofal cymdeithasol Cymru.

Wrth symud ymlaen, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a’r argymhellion o’r adroddiad i siapio eu dull o gefnogi arloesedd digidol ym maes gofal cymdeithasol. Maent yn bwriadu mynd i’r afael â’r bylchau a nodwyd, canolbwyntio ar gynhwysiant digidol, cynnwys y gweithlu a’r bobl sy’n derbyn gofal a chymorth.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gosod ei uchelgais i sicrhau newid cadarnhaol yng Nghymru ac i wella’r defnydd o dechnolegau digidol ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Cari-Anne Quinn:

“Gall technoleg ddigidol wella’r canlyniadau i bobl ledled Cymru a gwneud bywyd yn haws i staff gofal cymdeithasol, ond dim ond os yw hi wedi’i gwreiddio’n ystyrlon mewn systemau. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg gwych ar sut gallwn ni wneud hyn er mwyn sbarduno cynhwysiant digidol ac annog pobl i'w fabwysiadu.”

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Gofal Cymdeithsaol Cymru