Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI a Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol hanfodol i brosiect sy’n cadw pobl yn egnïol ac yn annibynnol drwy eu grymuso i reoli eu meddyginiaeth gyda dyfais ddigidol.

A woman holding up a YourMeds device

Mae’n cael ei gynnal yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda phobl yn defnyddio dyfais meddyginiaeth ddigidol YOURmeds. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o barhau â’n cymorth drwy ddarparu cymorth rheoli prosiectau, yn dilyn ein gwaith cychwynnol lle gwnaethom helpu i sganio’r gorwel i gadarnhau mai YOURmeds oedd y datrysiad gorau yn y cyd-destun hwn.

Mae YOURmeds yn ddyfais feddyginiaeth syml sy’n seiliedig ar SIM sy’n helpu ac yn atgoffa defnyddwyr i gymryd y feddyginiaeth gywir ar yr adeg iawn. Mae ffrindiau ac aelodau teulu dynodedig yn cael gwybod drwy ap cefnogwyr YOURmeds pan fydd meddyginiaeth yn cael ei chymryd ac yn eu rhybuddio os bydd meddyginiaeth yn cael ei cholli neu ei chymryd yn anghywir. Gall hefyd gefnogi staff a gwasanaethau gofal cymdeithasol i reoli adnoddau drwy leihau’r ddibyniaeth ar alwadau cartref ac ysgogiadau teleofal.

Mae’r Tîm Optimeiddio Meddyginiaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi creu’r model gwasanaeth integredig cyntaf i gefnogi meddyginiaethau, sy’n cynnwys eu sefydliad eu hunain, fferyllfeydd cymunedol, ffrindiau ac aelodau teulu, a Teleofal Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r gwaith cychwynnol, sy’n cael ei ariannu gan Dîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn cael ei werthuso ar hyn o bryd. Mae’r arwyddion cynnar yn dangos ei fod wedi lleihau gwastraff meddyginiaethau, wedi galluogi defnyddwyr i aros yn annibynnol ac wedi rhoi cymorth a sicrwydd i’w teuluoedd.

Mae’r prosiect hwn yn un o ddau brosiect sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Her Byw’n Dda Iechyd a Gofal Cymdeithasol SBRI - Gofal Cartref, sy’n canolbwyntio ar brofi a datblygu gwasanaethau arloesol ar gyfer mabwysiadu ehangach posibl. Bydd y cyllid a ddarperir yn caniatáu rhagor o ymchwil a datblygiadau i borth ar-lein YOURmeds, a fydd yn cefnogi clinigwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus drwy gynnwys y data meddyginiaeth ar gyfer pob defnyddiwr, ac yn cefnogi’r gwaith o reoli grŵp mawr o bobl sy’n defnyddio’r ddyfais o bell.

Dywedodd Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Rydw i bob amser yn cael fy ysbrydoli gan y ffyrdd newydd ac arloesol rydym ni’n gwella’r ffordd rydym ni’n darparu gofal ledled Cymru er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau. Mae gofal cartref yn wasanaeth allweddol sy’n cael ei ddarparu gan weithlu angerddol, ymroddedig a medrus. Bydd treialon fel y rhain yn ein galluogi i ddeall y ffordd orau o fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg i ategu sgiliau ein gweithlu.” 

(Arloesi yn rhoi mwy o ddewis ac annibyniaeth i bobl sy'n cael gofal cartref yng Nghymru | LLYW.CYMRU)

Dywedodd Louise Baker, Arweinydd Prosiect Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Rydym ni mor falch o barhau i weithio ar y prosiect hwn diolch i gefnogaeth gan SBRI a Llywodraeth Cymru. Mae cael y cyllid hwn yn garreg filltir ac yn gyflawniad gwych i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut bydd partneriaid yn defnyddio hyn i geisio cynyddu’r cymorth hwn i reoli meddyginiaethau yn y gymuned.”

Dywedodd Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Integredig Pen-y-bont ar Ogwr: 

“Mae integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol os ydym am sicrhau bod pobl yn ein cymunedau yn cael y gofal gorau a mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Drwy gyflwyno datrysiadau digidol newydd ac arloesol i helpu pobl i reoli eu meddyginiaethau, gallwn helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.”

I ddysgu mwy am y gwaith hwn, ewch i dudalen ein prosiect.