Bellach yn ei 12fed flwyddyn, mae Gwobrau GIG Cymru yn gyfle i arddangos arfer da ac arloesedd mewn trawsnewid ansawdd a diogelwch gofal cleifion.

The NHS Wales Awards 2019

 

Mae’r Gwobrau’n agored i’r holl staff a myfyrwyr sydd wedi gwneud gwelliannau ar gyfer y bobl o dan eu gofal. Rydym ni’n gyffrous cael cefnogi’r Gwobrau eleni i’w helpu dathlu eu gwaith gwych.

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rowndiau terfynol:

Cyflwyno iechyd a gofal gwerth uwch

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Lleihau oedi i gleifion allanol clust, trwyn a gwddf… Nid Stori am Welliant Parhaus yn unig
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Cyflwyno Troedio’n Iach, Dull Partneriaeth gyda Phodiatreg a’r Rhaglen Addysg i Gleifion yn Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Buddion Gwasanaeth Castio Cyfresol Lleol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ym Mhowys 

Cyflwyno gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Llwybr Gofal Cynorthwyol ar gyfer Cleifion Methiant y Galon Datblygedig
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Cynorthwyo Pobl sy’n Byw gyda Dementia ac Ymddygiad Heriol gan Ddefnyddio Dull Seicolegol sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys, Gwasanaeth Cludo Cyflym Gofal Diwedd Oes

Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Gwirfoddoli â Chymorth Cymheiriaid
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Opsiynau, Cyngor a Gwybodaeth: Rhoi Pobl yn Sedd y Gyrrwr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Y ‘Dream Team’ Anableddau Dysgu  

Cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Llywodraeth Cymru/Smart Money Cymru – Cymryd Cyfrifoldeb am Les Ariannol Gweithwyr 
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – y Gwasanaeth Rheoli’r Risg o Drawma (TRiM)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Rhwydwaith LHDT a Stryd Amrywiaeth Cwm Taf Morgannwg

Gwella iechyd a lles

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Gwella Iechyd a Lles trwy Ddatblygu ‘Siediau’ Clwstwr Taf-Elái 
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Optimeiddio cyn triniaethau a rhag-adfer gyda chanser yr ysgyfaint
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Cyngor Abertawe – Lleihau Effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yng Nghlwstwr Penderi, gan arwain at gyflwyno ac adolygu ‘Gwasanaeth Lles Plant a Theuluoedd mewn Gofal Sylfaenol’

Gwella diogelwch cleifion

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Cyflwyno Rowndiau Cerdded Thromboprophylaxis i wella diogelwch cleifion 
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - #ShareforcareWales: Lleihau Briwiau Pwyso a Gafwyd o Ofal Iechyd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Arloesi Digidol yng Ngofal yr Arennau: Rhagnodi a Dosbarthu Meddyginiaeth yn Electronig ar gyfer Hemodialysis 

Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ledled GIG Cymru

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Rhwydwaith Gofal Clefyd Niwronau Motor De Cymru 
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Uwch-ymarferwyr Parafeddygol yn gweithio o fewn Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau meddygon teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cronfa Risg Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chronfa Risg Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i leihau niwed pwysau y gellir ei osgoi ledled GIG Cymru

Gweithio’n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; MIND Cymru; yr Adran Gwaith a Phensiynau - Gweithio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Galwedigaethol i Unigolion yn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis 
  • Uned Gomisiynu Cenedlaethol; Llywodraeth Cymru – Gwasanaeth Lles a Rhyddhau’r Groes Goch ar gyfer Adrannau Brys 
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre; Prifysgol Caerdydd – Cyflwyno Ymchwil Effaith Uchel i wella Gofal Canser trwy gydweithredu rhwng y GIG a sefydliadau’r trydydd sector

Y cam nesaf yw i’r panel beirniadu ymweld â phob un sydd wedi cyrraedd y rowndiau terfynol i ddarganfod mwy, a gweld drostynt eu hunain y buddion y maen nhw wedi’u cyflwyno i gleifion. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 19 Medi.

Trefnir Gwobrau GIG Cymru gan 1000 o Fywydau, sef y gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru, a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.nhswalesawards.wales.nhs.uk.