Trydydd parti

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno proses newydd i wella canlyniadau ar gyfer galwyr 999 a darparu gwasanaeth mwy diogel.

A 999 worker speaking on the phone

Bydd parafeddygon a nyrsys yn ystafell reoli’r Ymddiriedolaeth bellach yn cynnal adolygiad clinigol cyflym o’r rhan fwyaf o alwadau 999 i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth mwyaf priodol.

Bydd y rhai y mae eu cyflwr yn peryglu bywyd ar unwaith yn parhau i gael ambiwlans brys ar oleuadau a seirenau cyn gynted â phosibl fel y gall clinigwyr medrus iawn ddarparu ymyriadau achub bywyd yn y fan a’r lle.

Bydd galwyr nad yw eu cyflwr mor sensitif i amser yn cael eu brysbennu ymhellach gan glinigwyr ystafell reoli, a fydd yn nodi'r ymateb mwyaf priodol i'w hanghenion.

Mae 30 o llywwyr clinigol wedi’u penodi i redeg y gwasanaeth newydd ac maen nhw wedi’u lleoli o ganolfannau cyswllt clinigol yr Ymddiriedolaeth yn Llanelwy, Caerfyrddin a Chwmbrân.

Dywedodd Pete Brown, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: 

“Mae’r gaeaf yn gyfnod prysur i’r GIG gyda salwch tymhorol a thywydd oer yn rhoi mwy o bwysau ar system sydd eisoes dan bwysau. Mae hyn yn golygu profiad claf gwael, heb sôn am rwystredigaeth i’n pobl, sydd ddim yn gallu helpu’r gymuned mor gyflym ag y dymunant.

“Mae sgrinio clinigol cyflym yn galluogi parafeddygon a nyrsys medrus iawn i gymhwyso eu meddwl beirniadol mewn amgylchedd ystafell reoli mewn rôl ‘llywiwr clinigol’ newydd sbon, gan sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf brys am help yn ei gael.”

Ychwanegodd Greg Lloyd, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyflenwi Clinigol: 

“Ar ôl y rhyngweithio cychwynnol gyda thriniwr galwadau 999 anghlinigol, cael clinigwr profiadol i gymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir yn ôl eu hanghenion.

Gall hyn gynnwys anfon ambiwlans brys, parafeddyg neu uwch ymarferydd parafeddygol, neu fe all gynnwys asesiad o bell gyda chlinigydd i gasglu gwybodaeth bellach i lywio’r camau nesaf yn y gofal a’r cyngor a ddarparwn.

Gall llyw-wyr clinigol hefyd arsylwi a gwrando ar alwadau 999 mewn amser real, gan annog y trinwyr galwadau i ofyn cwestiynau ychwanegol i gael mwy o wybodaeth a byddan nhw’n aros ar yr alwad hyd nes y gwneir penderfyniad diogel.

Bydd yr asesiad parhaus hwn yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion, yn ogystal â gwasanaeth llawer mwy diogel, a’r cyfan gyda golwg ar sicrhau bod cleifion yn cael y gofal neu’r cyngor cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf.”

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn profi nifer o ddulliau newydd dros y gaeaf i wella diogelwch cleifion ac ansawdd gofal.

Mae Cerbyd Ymateb Iechyd Meddwl pwrpasol yr Ymddiriedolaeth yn ne Cymru yn cefnogi pobl mewn argyfwng iechyd meddwl yn well ac yn lleihau derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu hosgoi.

Yn y cyfamser, mae Ymatebwyr Lles Cymunedol yn cael eu hyfforddi i fynychu galwadau 999 priodol yn eu cymuned a chymryd cyfres o arsylwadau gan y claf i helpu clinigwyr yn ystafell reoli'r ambiwlans i benderfynu ar y camau nesaf priodol.

Dywedodd Rachel Marsh, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Cynllunio a Pherfformiad yr Ymddiriedolaeth: 

“Yn allweddol i esblygiad ein model ymateb bydd adborth gan gleifion, staff a rhanddeiliaid eraill, a byddwn yn gwrando o ddifrif ar adborth i sicrhau bod ein gwasanaethau yn diwallu anghenion pobl Cymru yn well, nawr ac yn y dyfodol."

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Bennaeth Cyfathrebu Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Lois.Hough@wales.nhs.uk