Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI wedi lansio cyfle cyffrous i ddiwydiant gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Byrddau Iechyd yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw nodi a gweithredu atebion arloesol a all leihau’r galw digynsail ar ambiwlansys a gwasanaethau Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng ledled Cymru. 

Ambulance driving through street

Mae ein cleifion yng Nghymru yn aros yn hirach nag y dylent am ymateb ambiwlans a phan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty (Adran Achosion Brys), gallant dreulio cryn dipyn o amser yn yr ambiwlans cyn cael eu trosglwyddo i dimau clinigol yr Adran Achosion Brys. 

Hoffai tim SBRI trawsnewid y ffordd y mae gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cael ei ddarparu. Bydd hwn yn cefnogi uchelgais strategol WAST i ofalu am fwy o gleifion yn eu cartrefi eu hunain neu mewn lleoliad cymunedol, gan leihau’n ddiogel nifer y cleifion sydd angen eu cludo i’r ysbyty. 

Mae cyfle i wella seilwaith WAST er mwyn ein galluogi i ddarparu gofal yn nes at y cartref.  Mae WAST yn cydweithredwr mawr ar draws lleoliadau iechyd a gofal gyda chynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid eu model darparu gwasanaeth i wella canlyniadau clinigol, profiad cleifion a lleddfu pwysau system ar wasanaethau Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.  Er mwyn gwneud hyn, mae’n bwysig rhoi’r offer a’r dechnoleg gywir i’n pobl er mwyn galluogi rhoi gofal iawn yn y lle iawn. 

Beth yw’r cyfle? 

Mae SBRI yn gwahodd diwydiant i helpu darparu gofal yn nes at y cartref. Maen nhw’n chwilio am ddatrysiadau arloesol i wella oleia un o’r ddau themâu: 

  • Gwella galluoedd mewn lleoliadau cyn-ysbyty sy'n gallu galluogi cleifion i dderbyn gofal yn nes at adref.  Gallai hyn gynnwys Profion Pwynt Gofal (e.e. profion gwaed gyda chanlyniadau cyflym), datrysiadau technoleg gwisgadwy ac offer sganio symudol. 

  • Defnyddio technoleg i gefnogi gofal cleifion, gwella cyfathrebu a gwella diogelwch cleifion yn ystod diagnosis cychwynnol neu mewn achosion o arosiadau cymunedol hir am ambiwlans neu ymateb 111, neu aros am apwyntiad brys mewn man gofal diffiniol. 

Eisiau darganfod mwy? 

Mae'r tîm yn cynnal digwyddiad briffio rhithwir ddydd Iau 23 Chwefror am 1000: www.eventbrite.co.uk/e/sbri-briefing-event-changing-the-way-we-deliver-emergency-care-tickets-526329203817  

Fel arall, gallwch weld manylion llawn yr her yma: https://sbri.simplydo.co.uk/challenges/63cfa27a49c54055fa0c7ccb?utm-link=63dcd4a965bcec9a62a3b6e2