Yr wythnos hon, mewn partneriaeth â Business News Wales, rydym yn lansio sianel bwrpasol sy'n canolbwyntio ar ddatblygiadau diwydiant ar draws technoleg iechyd yng Nghymru.

A meeting between three people

 

Dyluniwyd Health Technology News (Saesneg yn unig) i weithredu fel siop un stop ar gyfer newyddion y diwydiant, y datblygiadau diweddaraf, digwyddiadau cyffrous a straeon newyddion hollbwysig mewn un lleoliad hawdd.

Gyda Thechnoleg Iechyd Cymru a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn bartneriaid ategol, byddwn yn darparu diweddariadau cynhwysfawr trwy bodlediadau misol, e-gylchlythyrau, erthyglau a barn a ysgrifennir gan golofnwyr arbenigol yn ogystal â chyfleoedd a digwyddiadau rhwydweithio.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae lansiad y sianel newydd hon yn rhoi llwyfan sylweddol inni allu cyfathrebu â'r gymuned fusnes a phartneriaid diwydiant. Rydym yn deall yn llwyr bwysigrwydd datblygu partneriaethau gweithio cydweithredol ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu â rhwydwaith busnes Cymru.”

Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Rydym yn gyffrous i fod yn bartner yn y sianel newydd hon ar gyfer y diwydiant technoleg iechyd. Ein rôl ni yw darparu dull cenedlaethol o nodi, gwerthuso a mabwysiadu technolegau iechyd a gofal heblaw meddygaeth. Mae hyrwyddo cydweithredu rhwng systemau gofal a diwydiant yn hanfodol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru ac mae'r platfform newydd hwn yn gyfle i'w groesawu i greu perthnasoedd traws-sector buddiol.”

Dywedodd Mark Powney, rheolwr gyfarwyddwr yn Business News Wales: “Mae cryn dipyn o ddilyniant a momentwm ym myd y diwydiant technoleg iechyd yng Nghymru, fodd bynnag, mae llawer o fusnesau ledled Cymru eto i sylweddoli'r cyfleoedd y gallai hyn eu cynnig iddynt, a dyma lle gall Business News Wales gael effaith fawr.

Cymerwch ran!

Os hoffai'ch busnes gymryd rhan yn y sianel newydd hon, cysylltwch â mark@businessnewswales.com.