Bu farw’r Athro Syr Mansel Aylward CB, cyn Gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn heddychlon ar 29 Mai 2024.
“Roedd Mansel yn berson ysbrydoledig a thosturiol dros ben, ac roedd ganddo’r gallu i ddod â’r holl bobl iawn at ei gilydd a sicrhau newid cadarnhaol,” meddai Victoria Bates, Cyfarwyddwr Anweithredol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Ychwanegodd Frank McKenna, Rheolwr Gyfarwyddwr Byd-eang, “Mansel oedd y person mwyaf dymunol yn yr ystafell bob amser. Roedd ei gynhesrwydd yn dod â phobl at ei gilydd. Roedd yn berson ffraeth, doniol, deallus a blaengar.”
Mae’r geiriau hyn yn cyfleu sut berson oedd fy ffrind annwyl, yr Athro Syr Mansel Aylward CB, a hunodd yn dawel ar 29 Mai 2024.
Nid gweledigaeth oedd yr unig beth oedd gan Mansel i’w gynnig o ran arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; roedd hefyd yn ysbrydoli, ac mae ei gyfraniadau wedi dylanwadu’n ddirfawr ar ein maes a bydd yn parhau i ddylanwadu arnom am flynyddoedd i ddod. Drwy gydol ei yrfa ddisglair, bu Mansel yn gweithio mewn nifer o swyddi allweddol. Bu’n Brif Swyddog Meddygol, yn Gyfarwyddwr Meddygol ac yn Brif Wyddonydd yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Adran Gwaith a Phensiynau yn Whitehall am ddeng mlynedd, ac ef oedd cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fel Cyn-gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, roedd Mansel yn arweinydd arbennig a oedd yn arwain ein sefydliad gyda doethineb a dealltwriaeth. Cafodd ei gyfnod yn y swydd ei nodweddu gan ymdrech ddygn i sicrhau rhagoriaeth ac ymrwymiad cadarn i feithrin amgylchedd lle gallai arloesedd ffynnu. Roedd ei weledigaeth a’i ymroddiad yn allweddol wrth lywio’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn y sector gwyddorau bywyd.
Hyd yn oed ar ôl camu i lawr o’i rôl fel Cadeirydd, roedd dylanwad Mansel yn parhau i fod yn gryf. Fel ymgynghorydd arbenigol, parhaodd i gynnig arweiniad amhrisiadwy gan ein helpu ni i ymdopi â heriau cymhleth a manteisio ar gyfleoedd newydd. Roedd ei frwdfrydedd dros integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn amlwg ym mhob menter roedd yn ei chefnogi, ac mae ei waith wedi gosod y sylfeini ar gyfer datblygiadau parhaus yn y meysydd hollbwysig hyn.
Ymrwymiad Arloesol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol…
Ganed Mansel ym Merthyr Tudful ym mis Tachwedd 1942, a chafodd ei brofiadau cynnar effaith fawr ar ei ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus. Fel myfyriwr meddygol, roedd yn un o’r ymatebwyr cyntaf i ymateb i Drychineb Aberfan, trasiedi a ddylanwadodd yn fawr ar ei ymrwymiad i helpu pobl mewn angen. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant meddygol, dychwelodd i Ferthyr Tudful i weithio fel Meddyg Teulu, gan ymdrechu’n ddiflino i wella bywydau pobl yn ei gymuned.
Yn 1974, sefydlodd Mansel SIMBEC Research Ltd, sef labordy ymchwil ym Merthyr Tudful yn arbenigo mewn therapïau fferyllol a meddygol. O dan ei arweinyddiaeth, cafodd SIMBEC gydnabyddiaeth sylweddol, gan gynnwys Gwobr Cwmni’r Flwyddyn y BBC a Gwobr Busnes Bach Ewrop. Sefydlodd hefyd y Clinigau Amnewid Hormonau a Menopos cyntaf y tu allan i’r GIG, gan hyrwyddo gofal iechyd i fenywod.
Rhwng 1988 a 1995, bu Mansel yn chwarae rhan allweddol yn yr Adran Nawdd Cymdeithasol a'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac ef oedd prif awdur 'The Disability Handbook'. Rhwng 1995 a 2005, yn ei swydd fel Prif Ymgynghorydd Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol, a Phrif Wyddonydd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, fe ddatblygodd yr Asesiad Galluogrwydd Personol, gan ganolbwyntio ar adsefydlu, ailsgilio a darparu cymorth ar gyfer pobl ag anableddau.
Yn 2005, daeth Mansel yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd Gomisiwn Bevan yn 2008, ac ef oedd cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru rhwng 2009 a 2017. Yna, fe aeth ymlaen i arwain ein sefydliad ni rhwng 2017 a 2021. Enillodd ei arbenigedd rhyngwladol nifer o anrhydeddau; cafodd ei wneud yn Gydymaith Urdd y Baddon yn 2002, ei urddo yn farchog yn 2010, a derbyn Rhyddid Merthyr Tudful.
Roedd Mansel yn fwy na dim ond arweinydd; roedd yn unigolyn caredig, tosturiol ac ysbrydoledig. Bydd ei drugaredd a’i ragoriaeth yn parhau i’n hysbrydoli ni i gyd. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i anwyliaid, ac er anrhydedd i’r atgof amdano byddwn yn parhau â’r gwaith roedd yn angerddol amdano.
Cofio Mansel…
“Roedd Mansel yn berson unigryw iawn. Roedd yn berson ffyddlon, angerddol, dewr, ac roedd wedi ymrwymo’n llwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a’r bobl o’i gwmpas.” meddai Jarred Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr, PDR.
“Yn anffodus, mae fy mentor a’m ffrind annwyl wedi ein gadael ni, ond bydd y cyngor doeth, yr hwyl a’r straeon arbennig yn aros yn y cof am byth. Roedd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd ac yn gawr o ddyn. Diolch yn fawr i chi, Mansel, am fod yn chi,” meddai Dr Chris Martin, Cadeirydd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
“Ar y nodyn olaf, roeddech chi, Mansel, yn Gymro balch ac mae eich angerdd, eich doethineb a’ch gwybodaeth wedi llwyddo i hyrwyddo gwella iechyd yn gadarnhaol. Mentor a ffrind annwyl sy’n cael ei golli’n fawr.”
Cari-Anne a phawb yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru