Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â The Guardian and healthawareness.co.uk fel rhan o ymgyrch genedlaethol ‘Cefnogi’r GIG’. Arddangos sut mae deallusrwydd artiffisial yn chwyldroi gofal iechyd yng Nghymru.
Mae’r defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn gofal iechyd yn helpu i wella canlyniadau cleifion a darparu gwasanaethau mwy effeithiol. Mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, wedi ysgrifennu erthygl gyffrous sy’n canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd yng Nghymru. O ddiagnosis canser i reoli poen, mae deallusrwydd artiffisial yn meithrin arloesedd er mwyn cael canlyniadau gwell i gleifion, ac i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Gyda’n gilydd, mae Cymru yn sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn dryloyw drwy ddatblygu trefniadau rheoleiddio a llywodraethu yn barhaus.”
I ddarllen yr erthygl yn llawn, ewch i: https://www.healthawareness.co.uk/supporting-the-nhs/transforming-diagnostics-remote-care-and-operational-efficiency-with-ai/