Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith hynod ddinistriol ar wasanaethau anadlu yn GIG Cymru. Roedd gwasanaethau diagnostig wedi eu cyfyngu oherwydd statws dosbarthiad y Weithdrefn Cynhyrchu Aerosol (AGP) ac wedi eu gwaethygu wedyn gan y cynnydd yn y galw am ddiagnosteg ôl-Covid.

Uned cymorth anadlu symudol

Mae iechyd anadlu yn parhau i fod yn faich mawr ar y GIG yng Nghymru gydag un o bob 12 o bobl gyda salwch anadlu. Mae gan Gymru hefyd fwy o asthma nag unman arall yn Ewrop.

Mae Arloesedd Anadlol Cymru (RIW), mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg , Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Masimo a Fujitsu, wedi cydweithio i sefydlu uned symudol i fynd i’r afael â’r diffyg mewn gwasanaethau cymunedol a chynyddu mynediad at ddiagnosteg anadlol.

Bydd y prosiect ar-y-cyd hwn, am chwe mis i ddechrau, yn darparu uned glinigol hunangynhwysol mewn lleoliadau di-aciwt ar draws y ddau fwrdd iechyd. Mae’r uned yn cynnwys 2 ystafell glinig ac ardal glinigol gofod-agored ynghyd â’r cyfarpar clinigol perthnasol. Bydd yn gwasanaethu gwahanol ardaloedd daearyddol am wythnos ar y tro.

Prif amcanion RIW gyda’r prosiect hwn yw datganoli gofal a dod â gofal yn nes at y claf; darparu gwasanaethau mwy effeithlon; byrhau llwybrau cleifion i fod fel yr oeddent cyn Covid; datblygu gwasanaeth symudol y gellir ei gyflwyno’n syth mewn cyd-destun gofal sylfaenol ac yn y gymuned; profi a modelu uned gwasanaethau symudol y gellir ei gyflwyno ar draws Cymru; a chynnig arbedion cost sylweddol i’r GIG.

Bydd sgôp y prosiect yn cynnwys (cam wrth gam); Spirometreg, profion diagnostig FeNo, adolygu cynlluniau rheoli cyflyrau, clinigau ymyriadau clinigwyr, a chlinigau cymorth anadlu anymwthiol.

Bwriedir lansio RIW ddechrau mis Mai ac yn ôl Philip Webb, ei Brif Weithredwr:

“Yn unol ag egwyddorion Cymru Iachach a thrwy ddefnyddio’r perthnasoedd agos ac effeithiol sydd gennym yng Nghymru, mae’r MRC yn cynnig gwasanaeth arloesol, amserol, cyfartal a hygyrch i gleifion yn nes at adref ac yn rhaglen bwysig iawn i adfer gofal a gynlluniwyd yng Nghymru.”

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn cynnig cymorth rheoli prosiect i helpu RIW a’r ddau fwrdd iechyd i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn y gymuned.

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Iechyd Cymru:

“Gall ysgafnu’r pwysau ar ein systemau gofal eilaidd drwy drosglwyddo gwasanaethau i’r gymuned ein helpu i symud tuag at ddull mwy ataliol o ofalu am iechyd gan weithio’n fwy effeithlon a gwella’r canlyniadau i gleifion. Rydym yn falch iawn o gydweithredu ar y prosiect arloesi iechyd hwn i helpu i sicrhau hyn yng Nghymru.”