Rydyn ni wedi casglu’r cylchlythyrau gorau sydd ar gael eleni er mwyn ei gwneud yn haws i chi gadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf yn eich maes, boed hynny ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, technoleg feddygol, ymchwil neu dechnoleg ddigidol.

Newsletter image

Mae’r gofod arloesi yn llawn newyddion, syniadau, gwybodaeth a chefnogaeth sy’n esblygu’n gyson. Mae cael y wybodaeth ddiweddaraf yn gallu bod yn dasg heriol, ond un o’r ffyrdd gorau o wneud hynny yw drwy gylchlythyrau.

Gadewch i ni edrych ar beth sydd ar gael...

 


Cymru: Technoleg Ddigidol

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn meithrin y genhedlaeth nesaf o wasanaethau sydd eu hangen i drawsnewid y ddarpariaeth iechyd a gofal yng Nghymru. Mae eu cylchlythyr yn darparu’r wybodaeth ddigidol ddiweddaraf gan GIG Cymru yn syth i’ch mewnflwch.

 


Cymru: Ymchwil ac Arloesi

Technoleg Iechyd Cymru

Sefydliad cenedlaethol yw Technoleg Iechyd Cymru sydd â’r nod o fanteisio’n llawn ar wella iechyd yn y wlad drwy werthuso effeithiolrwydd technolegau iechyd, drwy ddarparu canllaw ar weithredu a thrwy gefnogi datblygiad polisïau. Mae’r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth am ganllawiau a pholisïau newydd.

 

Gwelliant Cymru

Nod Gwelliant Cymru yw i gefnogi datblygiad gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a sefydliadau eraill. Mae’r cylchlythyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol am eu gwaith parhaus.

 


Cymru: Iechyd

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gorff hyd braich o Lywodraeth Cymru i ysgogi arloesi a chydweithio rhwng y meysydd diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol ac academia. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth gadarnhaol i bobl, teuluoedd a busnesau ar hyd a lled y wlad, ac i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes iechyd, gofal a lles. Mae’r cylchlythyr yn cynnig y newyddion am arloesi, digwyddiadau a’r cyhoeddiadau diweddaraf ymhob rhan o faes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r tu hwnt.

 


Cymru: Gofal Cymdeithasol

Gofal Cymdeithasol Cymru

Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff rheoleiddio cenedlaethol sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithlu gofal cymdeithasol Cymru. Nhw sy’n gosod y safon ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant, cynnal cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol, darparu canllaw i ddarparwyr gofal cymdeithasol, a mwy. Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau newydd ac am ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

 

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Corff aelodaeth proffesiynol yw Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sy’n cynrychioli ac yn cefnogi cyfarwyddwyr ac uwch-reolwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau bod llais y gwasanaeth gofal cymdeithasol yn cael ei glywed wrth lunio polisïau. Maen nhw’n darparu hyfforddiant, gwybodaeth a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio. Mae eu cylchlythyr yn canolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr arweinyddiaeth yng ngwasanaethau gofal yng Nghymru.

 


Y Deyrnas Unedig: Technoleg Ddigidol

Arloesi Technoleg Feddygol

Mae Newyddion Arloesi Technoleg Feddygol yn ymdrin â’r datblygiadau diweddaraf yn y sector technoleg feddygol. Maen nhw’n darparu newyddion, dadansoddiad, barn, a chynnwys eraill sy’n ymwneud â dyfeisiau meddygol, iechyd digidol, a thechnoleg gofal iechyd. Mae’r cylchlythyr yn adnodd allweddol i weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, i arweinwyr diwydiant, ac i fuddsoddwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn y maes.

 


Y Deyrnas Unedig: Ymchwil ac Arloesi

The King’s Fund

Mae The King’s Fund yn elusen a melin drafod iechyd sydd â’r nod o wella iechyd a gofal drwy ymchwil, addysg, hyfforddiant, adrodd ar faterion allweddol iechyd a gofal cymdeithasol, a thrwy ddylanwadu ar bolisïau. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau sy’n amrywio o ran pa mor aml y maent yn ymddangos, ac sy’n gwella meysydd allweddol eu gwaith. Mae’r cylchlythyrau hyn yn cynnwys digwyddiadau, y newyddion diweddaraf, a’r datblygiadau diweddaraf ym meysydd iechyd digidol a thechnoleg.

 

Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd Academaidd

Mae’r Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd Academaidd yn rhwydwaith ar y cyd â 15 o bartneriaethau rhanbarthol rhwng prifysgolion y GIG a phartneriaethau’r diwydiant. Maen nhw’n dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i gydlunio ac i gyd-gyflawni datrysiadau ar gyfer yr heriau mwyaf sy’n wynebu’r GIG ym maes iechyd, i gefnogi’r arferion gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac i hwyluso defnydd technolegau a thriniaethau arloesol. Mae eu cylchlythyr yn rhoi crynodeb o’r newyddion arloesi, digwyddiadau, cyhoeddiadau a’r safbwyntiau diweddaraf gan y 15 Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd Academaidd.

 


Y Deyrnas Unedig: Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Comisiwn Ansawdd Gofal

Rheoleiddiwr annibynnol yw’r Comisiwn Ansawdd Gofal ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael gofal diogel ac effeithiol, ac yn annog gwasanaethau gofal i wella. Mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal hefyd yn cyhoeddi adroddiadau a gwybodaeth ar faterion ansawdd mawr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae eu cylchlythyr yn ymdrin â’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n gysylltiedig â’u gwaith, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf hanfodol am ofal cymdeithasol.

 

I gael rhestr o’r holl gylchlythyrau gan ein partneriaid a’n rhanddeiliaid, ewch i’n tudalen newyddlenni.