Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol wedi cyhoeddi ei Adolygiad Blynyddol cyntaf i ddangos sut mae’n defnyddio arloesedd digidol a chydweithio i wneud y broses o ragnodi, dosbarthu a rheoli mynediad at feddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol i gleifion a gweithwyr proffesiynol. 

A hand using a tablet device in a pharmacy setting

Rydyn ni’n falch o gael ein cynnwys yn yr Adolygiad fel partner sy’n helpu i ddarparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i Gymru. Bydd cael presgripsiynau digidol yng Nghymru yn arbed amser ac yn gwneud y broses yn haws, yn fwy diogel, yn fwy gwyrdd ac yn fwy effeithlon i feddygon, fferyllfeydd a chleifion. 

Mae ein tîm wedi rheoli’r gwaith o ddarparu Cronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned i ddarparu grantiau datblygu i gyflenwyr systemau fferylliaeth yng Nghymru er mwyn gwneud Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn bosib. Mae pum cyflenwr eisoes wedi cael grantiau o dan y cynllun hwn, a bydd grantiau yn cael eu dyfarnu i dri arall yn fuan. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, ein Prif Swyddog Gweithredol: 

“Bydd digideiddio’r gwasanaeth presgripsiynau yng Nghymru yn darparu system fwy diogel a mwy effeithlon a fydd yn fuddiol i gleifion ac yn rhyddhau amser ac adnoddau hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r gwaith trawsnewid hwn drwy reoli’r broses ddyfarnu a chyllido, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld gwell gwasanaethau’n cael eu darparu ar draws y wlad.”  

Mae’r Adolygiad hefyd yn tynnu sylw at gynnydd tair rhaglen allweddol arall: 

  • Rhoi proses Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Electronig ar waith ym mhob ward ym mhob ysbyty yn GIG Cymru. Ar ôl cwblhau hyn, bydd yr holl bresgripsiynau a meddyginiaethau sy’n cael eu rhoi ar wardiau ysbytai yn cael eu cofnodi’n ddigidol, gan ddisodli’r siartiau meddyginiaeth papur traddodiadol. 
  • Datblygu Cofnod Meddyginiaethau a Rennir, sef un cofnod o feddyginiaethau ar gyfer pob claf yng Nghymru y gellir cael gafael arno’n hawdd a’i rannu pan fo angen. 
  • Ymgorffori swyddogaeth meddyginiaethau ar Ap GIG Cymru. Bydd hyn yn cynnwys archebu a rheoli presgripsiynau rheolaidd. 

Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Fe’i sefydlwyd ym mis Ebrill 2022 i helpu i drawsnewid gofal a gwasanaethau i gleifion drwy ddisodli’r prosesau papur sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd mewn ysbytai, meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol. 

Gallwch ddarllen yr Adolygiad Blynyddol yn llawn ar wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru