Ymunwch â ni dydd Mercher 25 a dydd Iau 26 Mawrth 2020 wrth i ni ddod â'r arloeswyr iechyd a gofal cymdeithasol, arbenigwyr y diwydiant, a'r byd academaidd at ei gilydd i archwilio sut y bydd cydweithredu yng Nghymru yn arwain at chwyldroadau newydd ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y trafodaethau'n cynnwys archwilio sut y bydd deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura cwmwl yn trawsnewid y gofal a gawn ni a chenedlaethau'r dyfodol.
Yn ymuno â ni bydd John Davies, Pennaeth Gofal Iechyd, Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig ac yn Rhyngwladol cwmni Amazon Web Services, a'r Uwch Arbenigwr Technegol yn Intel, Costas Stylianou, a fydd yn datgelu sut mae arloesedd digidol a deallusrwydd artiffisial yn chwyldroi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle gwych i glywed gan reolwr gyfarwyddwyr dau o gwmnïau gofal iechyd a biofferyllol mwyaf blaenllaw'r byd - Ben Osborn o Pfizer (y Deyrnas Unedig), a Richard Erwin o Roche (y Deyrnas Unedig).
Gydag ystod gyffrous o siaradwyr, sesiynau rhyngweithiol, gweithdai ac arddangoswyr, bydd cyfle gan gynadleddwyr i gwrdd â phobl sy'n gweithio yn y sector ac i glywed yn uniongyrchol am y problemau beunyddiol maen nhw'n eu hwynebu sy'n gofyn am atebion arloesol. Byddan nhw hefyd yn gallu cael cyngor ar sut i ddod â'u syniadau arloesol yn fyw gyda sesiynau ar sicrhau cyllid ac ymgysylltu â'r gwasanaeth iechyd.
Y nod yw annog partneriaethau rhwng diwydiant a'r byd academaidd i ddod â thwf economaidd, cyflogaeth gynaliadwy a buddion iechyd i'r genedl.
Wrth siarad cyn cynhadledd Iechyd Yfory 2020, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
"Mae technoleg yn chwarae rhan hanfodol a chyffrous yn ein gweledigaeth gydweithredol hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sef Cymru Iachach. Mae'n fwyfwy pwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i ddatgloi ffyrdd newydd o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn bodloni'r galw cynyddol.
"Mae Cymru eisoes yn gartref i sector gwyddorau bywyd ffyniannus, ac mae'r gynhadledd hon yn gyfle gwych i glywed am ddatblygiadau technoleg ac arloesi ym maes gofal iechyd. Mae'r un mor bwysig, fel rhan o'r gynhadledd hon, fod partneriaethau newydd yn cael eu datblygu, sy'n llwyddiannus yn economaidd ac sy'n cynnig buddiannau iechyd a gofal cynaliadwy i bobl Cymru."
Meddai Cari-Anne Quinn, ein Prif Swyddog Gweithredol:
"Mae gennym ddiwydiant gwyddorau bywyd cryf yng Nghymru ac mae'r sector yn cynnig cyfle unigryw am dwf sylweddol ar draws ein heconomi. Mae nifer y cwmnïau sydd gan Gymru eisoes un rhan o bump yn uwch na'r cyfartaledd y pen ar draws gwledydd Prydain, ac rydyn ni'n cael ein cydnabod yn fyd-eang am ein llwyddiannau mewn meysydd sy'n amrywio o ddatblygiadau digidol a thechnoleg feddygol i feddygaeth aildyfu a niwrowyddoniaeth.
"Yn ogystal â chynnig manteision economaidd, mae cydweithredu ar draws y sector hefyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles pobl yng Nghymru. Fodd bynnag, mae llawer mwy y gellir ei gyflawni o hyd.
"Bydd cynhadledd Iechyd Yfory 2020 yn darparu'r llwyfan i ddod â meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, academia a'r diwydiant ynghyd, mewn ysbryd o gydweithredu, i gyflymu datblygiadau gofal iechyd Cymru a chreu gofal iechyd gwell i Gymru a thu hwnt yn y dyfodol."
I glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes arloesedd gofal iechyd,archebwch eich tocyn di-dâl i gynrychiolwyr heddiw.
Am wybodaeth noddi ac arddangos cysylltwch â enquiries@tomorrowshealth.wales