Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi darparu ymateb i’r ymgynghoriad wedi ei dargedu ar Gynigion ar gyfer diweddaru Rhan IX y Tariff Cyffuriau – Dyfeisiau Meddygol sydd ar gael i’w rhagnodi mewn Gofal Sylfaenol.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi darparu ymateb i’r ymgynghoriad wedi ei dargedu ar Gynigion ar gyfer diweddaru Rhan IX y Tariff Cyffuriau – Dyfeisiau Meddygol sydd ar gael i’w rhagnodi mewn Gofal Sylfaenol. Roedd yr ymgynghoriad yn agored rhwng mis Hydref 2023 a mis Ionawr 2024 ac roedd yn un wedi ei dargedu yn hytrach nag un cyhoeddus, oherwydd ei bwnc cymhleth. Mae’r Ymateb i’r Ymgynghoriad yn nodi ymateb y llywodraeth a’r camau nesaf.
Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu gweithio’n agos gyda’r diwydiant, cleifion, clinigwyr a sefydliadau’r GIG wrth iddo ddatblygu categorïau ar gyfer Rhan IX a nodweddion ansawdd a gwerth cymdeithasol ar gyfer gwerthuso. Mae rhai dyfeisiau da iawn yn cael eu defnyddio, y mae clinigwyr a chleifion yn dibynnu arnynt. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu wrth bennu priodoleddau cynnyrch, yn ogystal â ffactorau sy’n bwysig i gleifion a gwerth ehangach y cynnyrch.
Os hoffech chi ymuno â’r gwaith ymgysylltu wrth i fanylion y diwygiadau gael eu datblygu, neu os hoffech gael fwy o wybodaeth, cysylltwch â: medtech@dhsc.gov.uk.