Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn mynychu ConfedExpo y GIG 2022 mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith AHSN fel rhan o’r ‘Parth Arloesi’.
Mae’r gynhadledd, sy’n cael ei chynnal yn Lerpwl rhwng 15 ac 16 Mehefin 2022, yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Chydffederasiwn y GIG, NHS England a Gwelliant y GIG - gan ddod ag arweinwyr ym maes gofal iechyd a’r diwydiant at ei gilydd i greu cyfleoedd rhwydweithio, dysgu ac arloesi.
Bydd y rheini a fydd yn bresennol yn cael cyfle i glywed gan arweinwyr ym maes gofal iechyd, rhwydweithio ac ymgysylltu â chymheiriaid i rannu profiadau a thrafod atebion a chwrdd ag arbenigwyr o bob rhan o’r sector yn y parth arddangoswyr. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ‘drawsnewid ac adfer’, sy’n ymdrin â themâu fel anghydraddoldebau iechyd, cydweithio a phartneriaethau, ac ansawdd a gwella clinigol.
Bydd dros 140 o sesiynau’n cael eu cyflwyno dros y ddau ddiwrnod, gan gynnwys areithiau, sesiynau theatr, gweithdai a thrafodaethau penodol, ac mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad gwych.
Trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol, safbwynt Cymru
Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, yn cynnal gweithdy Parth Arloesi Rhwydwaith AHSN rhwng 11:30am a 12pm ddydd Iau 16 Mehefin.
Mae ein gweithdy yn rhoi persbectif pwysig ar sut mae sefydliadau yng Nghymru yn trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn archwilio ecosystem arloesi ddeinamig Cymru ac yn amlinellu’r cyfleoedd ar gyfer sbarduno arloesedd ar draws y system ar raddfa genedlaethol, ochr yn ochr â sut gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gefnogi eich syniadau a chanfod cyfleoedd i gydweithio.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, y Prif Swyddog Gweithredol: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bresennol ac yn cyflwyno yn ConfedExpo y GIG 2022 mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith AHSN yn eu Parth Arloesi. Mae themâu eleni, fel cydweithio a sbarduno adferiad, yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau sefydliadol ni – sy’n hanfodol i’n helpu ni i drawsnewid ein systemau gofal iechyd er mwyn diwallu anghenion heddiw ac yn y dyfodol.”
Mae’r agenda amrywiol a helaeth hefyd yn cynnwys sgwrs gan Google Health sy’n edrych ar eu gweledigaeth ddigidol ar gyfer dyfodol gofal iechyd, arweinwyr o GIG Lloegr a Gwelliant y GIG yn cynnal sesiwn ryngweithiol yn trafod sut y gallwn gasglu a phrofi syniadau sy’n cefnogi gofal dewisol, a sut yr oedd System Gofal Integredig Sussex yn adeiladu llwybrau gofal gyda seilwaith data sy’n canolbwyntio ar y claf.
Os hoffech chi gwrdd â ni yn y digwyddiad a dysgu mwy am sut gall ein gwasanaethau cymorth pwrpasol helpu gyda’ch prosiect arloesi ym maes gofal iechyd, yna cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod. Byddwn hefyd yn rhwydweithio ym Mharth Arloesi AHSN rhwng 5pm a 6pm ddydd Mercher 15 Mehefin.