Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gyhoeddi bod y broses ymgeisio ar gyfer yr Academi Lledaeniad a Graddfa nawr ar agor. Mae’r Academi yn rhaglen unigryw ac arloesol a luniwyd ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r Comisiwn Bevan.

Spread and Scale

Dull gweithredu unigryw

Bydd y rhaglen pedwar diwrnod yn rhedeg rhwng dydd Llun 30 Medi a dydd Iau 3 Hydref 2019. Caiff ei chyflwyno mewn partneriaeth â South West Alliance Health Science Network a hyfforddwyr o Billions Institute sydd ag enw da yn rhyngwladol.

Gyda gweithlu’r GIG yng Nghymru mor angerddol a llawn cymhelliant, rydym yn gweld mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Diben yr Academi Lledaeniad a Graddfa yw lledaenu dylanwad y prosiectau hyn a darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar unigolion a thimau i ddatblygu’r prosiectau hyn ar raddfa fwy ar draws sefydliadau, drwy’r rhanbarthau a ledled Cymru.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, “Mae hwn yn gyfle heb ei ail i adeiladu ar y prosiectau ysbrydoledig sydd eisoes ar waith yng Nghymru, gyda’r nod o annog lledaenu arferion da ac arloesedd mor eang a chyflym â phosib. Bydd yn bedwar diwrnod llawn dop o weithgareddau gan geisio sicrhau bod camau sy’n gwneud gwahaniaeth mewn un ardal yn cael eu datblygu er mwyn helpu cleifion a dinasyddion ledled Cymru.”

Gwneud cais

Mae lle i 50 o fynychwyr yn yr Academi Lledaeniad a Graddfa cyntaf. Dyma sydd ei angen i wneud cais:

  • Tîm gyda 2-5 o bobl
  • Prosiect bach, llwyddiannus sydd â photensial i'w ddatblygu
  • Ar gael rhwng dydd Llun 30 Medi a dydd Iau 3 Hydref 2019
  • Cymhelliant i ledaenu a thyfu'r prosiect
  • Cofiwch: Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Sul 21 Gorffennaf 2019, 11:59pm

Am ragor o fanylion ac i wneud cais, ewch i wefan yr: Academi Lledaeniad a Graddfa

Llyfryn yr Academi Lledaeniad a Graddfa

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at spreadandscale@wales.nhs.uk