Mae Ysbrydoli Arloesi yn gasgliad o’r straeon newyddion diweddaraf ar draws tirwedd arloesi Cymru. Wedi eu casglu gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector, maent yn dangos ecosystem ffyniannus Cymru a sut mae arloesi yn ategu’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Innovation graphic

Mae mis Chwefror wedi bod yn gyfnod cyffrous ar gyfer arloesi yng Nghymru, gyda chyfleoedd cyllido’n sydd â’r potensial i ddatblygu technoleg sy’n ceisio trawsnewid gofal iechyd ar raddfa leol a chenedlaethol.

 


Cynlluniau Mawr ar gyfer Labordy Meddygaeth Niwclear Cenedlaethol yng ngogledd Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynlluniau i wneud Cymru yn lleoliad blaenllaw ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol yn y Deyrnas Unedig ac yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang. Mae’r cynlluniau wedi cael eu datblygu i fynd i’r afael ag argyfwng sy'n prysur ddatblygu o ran cyflenwadau ar gyfer meddygaeth niwclear ledled y byd. 

Wedi ei leoli yn Nhrawsfynydd, Gwynedd, bydd y cyfleuster sy'n werth £400 miliwn yn labordy cenedlaethol yn y sector cyhoeddus a fydd yn cynhyrchu radioisotopau meddygol, gan eu cyflenwi i’r GIG yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Bydd yn fenter strategol fawr yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig ac yn ymdrech dros sawl degawd.  

Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru: 

“Drwy’r datblygiad hwn, gall Cymru nid yn unig fod yn brif le yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol – gan gynhyrchu radioisotopau meddygol sy’n achub bywydau ac sy’n hanfodol ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser – ond gallwn hefyd ddenu swyddi â mwy o sgiliau, creu seilwaith o’i gwmpas, cynorthwyo cymunedau lleol, ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol. 

“Bydd y prosiect hwn yn hanfodol i’n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus, drwy greu’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i sicrhau eu dyfodol yma yng Nghymru.” 

 

 


Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi darpariaeth gyllido ar y cyd gwerth £2.1 miliwn ar gyfer triniaethau canser newydd 

Mae partneriaeth rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Cancer Research UK, a'r Little Princess Trust wedi arwain at ddarparu dros £2 miliwn o gyllid dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC) Caerdydd. Bydd y cyllid yn caniatáu datblygu triniaethau newydd ar gyfer amrywiaeth eang o ganserau, yn ogystal â gwella triniaethau sy’n bodoli'n barod.  

Mae Caerdydd, drwy gyllid Cancer Research UK, yn un o 17 Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol ledled y Deyrnas Unedig sy’n darparu treialon clinigol o driniaethau newydd addawol. Mae’r Canolfannau Meddygaeth Canser Arbrofol yn gweithio gyda chyfleusterau GIG lleol i ddarparu mynediad at driniaethau canser arloesol.

Dywedodd yr Athro Oliver Ottman a Robert Jones, Cyd-gyfarwyddwyr ECMC Caerdydd:  

“Rydym wrth ein bodd bod Caerdydd wedi sicrhau’r cyllid hwn, gan ein helpu i ehangu ein gwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf a darparu therapïau arloesol. Mae miloedd o gleifion eisoes wedi cael cyffuriau a therapïau sy’n achub bywydau drwy Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd. Edrychwn ymlaen at ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer triniaethau i gleifion yng Nghymru a thu hwnt.”  

 

 


Cwmni Dyfeisiau Meddygol o Gas-gwent yn sicrhau buddsoddiad gwerth £5.2 miliwn

 

Mae IQ Endoscopes wedi sicrhau buddsoddiad gwerth £5.2 miliwn, dan arweiniad BGF a gyda chymorth Banc Datblygu Cymru, i ategu'r gwaith o ddatblygu a marchnata technoleg y cwmni. 

Mae endosgopi yn weithdrefn gymharol gyffredin, gyda dros 70 miliwn yn cael eu cyflawni’n fyd-eang bob blwyddyn, gyda 98% o’r rhain yn cael eu cynnal gydag endosgopau y gellir eu defnyddio sawl gwaith. Fodd bynnag, mae IQ Endoscopes wedi creu endosgop untro sydd â manteision posibl o leihau’r risg o groeshalogi rhwng cleifion, cael gwared ar yr amser sydd ei angen i ddiheintio cwmpasau amldro ar ôl iddynt gael eu defnyddio, a bod yn rhatach na dyfeisiau y gellir eu hailddefnyddio. 

Dywedodd Matt Ginn, Prif Swyddog Gweithredol IQ Endoscopes: 

“Bydd y cymorth ariannol diweddaraf hwn yn ein galluogi i ddod â’n technoleg i’r farchnad, gan sicrhau ei bod ar gael i gleifion sy’n cael triniaethau a gweithdrefnau hanfodol cyn gynted â phosibl. Ar ben hynny, gallwn barhau i ehangu ein sefydliad yn ne Cymru a sicrhau ein bod ni’n graddio’r sefydliad yn unol â’r cynlluniau masnacheiddio.” 

 

Ychwanegodd Tim Rea, buddsoddwr yn BGF: 

“Mae’r tîm yn IQ Endoscopes yn ymroddedig iawn i wella canlyniadau i gleifion a darparwyr gofal iechyd ledled y byd. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi IQ Endoscopes i gyrraedd y cerrig milltir datblygu sy’n weddill ar sail map clir tuag at ei gam nesaf o dwf.”

 

 


Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.