Mae Ysbrydoli Arloesi yn gasgliad o’r straeon newyddion diweddaraf ar draws tirwedd arloesi Cymru. Wedi eu casglu gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector, maent yn dangos ecosystem ffyniannus Cymru a sut mae arloesi yn ategu’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Innovation graphic

Mae mis Mawrth wedi bod yn fis prysur ar gyfer arloesedd yng Nghymru gyda nifer o gyfleoedd ariannu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a allai wella canlyniadau iechyd tymor hir i bobl ledled y wlad. 

 


Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £5 miliwn o gyllid ar gyfer mwy o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £5 miliwn i gynyddu’r nifer o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru er mwyn gwella’r mynediad at ofal yn y gymuned.  Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn darparu gofal i asesu, trin, rhoi diagnosis a rhyddhau cleifion, a gall y proffesiynau gynnwys radiograffwyr, parafeddygon, ffisiotherapyddion, dietegwyr a therapyddion galwedigaethol.

Mae cyllid ar gael o fis Ebrill 2023.  Drwy fuddsoddi yn y gweithwyr hyn, bydd y fenter hon yn ceisio helpu pobl i barhau i fod yn heini ac yn annibynnol, gan leihau’r nifer o dderbyniadau mewn ysbytai ac, o ganlyniad i hynny, galluogi i bobl gael eu rhyddhau’n gyflymach o’r ysbyty.  Mae hyn yn galluogi i gleifion adfer yn eu cartref ac mae’n lleihau’r pwysau ar wasanaethau.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau yn y gymuned. Rydyn ni am i bobl fyw gartref, mor annibynnol â phosib. Ar hyn o bryd, nid oes digon o bobl yn gallu manteisio ar arbenigedd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i wella eu hiechyd a’u hadferiad. Dyna pam rwy’n cyhoeddi £5 miliwn i wella mynediad at weithwyr proffesiynol medrus a gwasanaethau i ddarparu dewisiadau amgen i dderbyniadau i’r ysbyty a lleihau dibyniaeth ar ofal cymdeithasol hirdymor.”

 

 


Reacta Healthcare yn chwyldroi diagnosis alergeddau bwyd mewn prosiect gwerth £1 filiwn

Mae’r gwneuthurwyr fferyllol Reacta Healthcare yng Nghymru yn mynd i’r afael ag alergeddau bwyd plant ac yn ymateb i’r angen am fwy o ymchwil ac ymarfer clinigol i atal cynnydd yn nifer yr achosion o dderbyniadau ysbytai. Mewn prosiect 24 mis, a ariannwyd gan Innovate UK, mae Reacta Healthcare wedi cwblhau cam cyntaf datblygu prydau bwyd ar gyfer cyfranogwyr treial pediatrig sydd ag alergedd i laeth. Mae hefyd yn bwriadu ehangu’r profion hyn i alergeddau pysgnau ac wyau.

Mae alergeddau bwyd yn effeithio ar 3-6% o blant, sy’n arwain at gyfnodau yn yr ysbyty, allgau cymdeithasol, ansawdd bywyd is a sgil-effeithiau ariannol ar deuluoedd.  Cynhelir astudiaethau clinigol sy’n gysylltiedig ag alergeddau bwyd ar oedolion fel arfer, ond mae astudiaethau diweddar yn canolbwyntio ar blant oherwydd gall cyflwyniad yn y blynyddoedd cynnar i alergeddau bwyd gynyddu goddefgarwch hirbarhaol.

Dywedodd Dr Paul Abrahams, Prif Swyddog Gweithredol Reacta Healthcare: 

“O ran alergeddau bwyd, dylem edrych ar sut y gallwn wneud diagnosis ohonynt yn gynnar mewn bywyd i sefydlu triniaeth a'i gwneud yn haws i'w rheoli. Nid yw’r heriau bwyd gradd anfferyllol presennol yn gywir nac yn ddigon diogel i blant ifanc iawn.

“Rydym yn falch iawn ein bod yn arwain y gwaith o ddatblygu dull gweithredu mwy datblygedig at ddiagnosis o alergedd bwyd ymhlith plant.  Y nod yn y pen draw yw sicrhau dyfodol lle nad yw ansawdd bywyd pobl yn cael ei effeithio gan alergeddau bwyd, a dylai hyn ddechrau yn ystod plentyndod.”

 

 


Cydweithrediad rhwng Diwydiant ac Academia yn datblygu offer hyfforddiant haptig Realiti Rhithwir ar gyfer meddygon

Mae arbenigwyr meddygol a thechnoleg yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu system hyfforddi realiti rhithwir i alluogi hyfforddeion i ‘gyffwrdd’ claf rhithwir gan ddefnyddio menig haptig sy’n dynwared y teimlad o gyffwrdd.

Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol, ym Mhrifysgol De Cymru, wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni hyfforddiant meddygol o Gaerdydd Advanced Medical Simulation Online (AMSO) i ddatblygu prawf o gysyniad ar gyfer hyfforddiant haptig realiti rhithwir. Gall dysgwyr asesu cleifion sydd wedi’u hanafu a chynnal archwiliadau corfforol, wrth dderbyn adborth ar eu perfformiad.

Mae AMSO wedi sefydlu Metaverse Education and Training Applications Ltd hefyd, cwmni sy’n datblygu’r system ac sy’n ceisio buddsoddiad i’w chyflwyno i’r farchnad.  Yng Nghymru, mae realiti rhithwir ym maes gofal iechyd yn cynyddu, gyda chwmnïau fel AMSO, Rescape, Goggleminds ac Imersifi yn datblygu cynnyrch yn y maes hwn. Mae Fortune Business Insights yn rhagweld Cyfradd Twf Blynyddol o 38.7% rhwng 2022 a 2029, a  fydd yn helpu i greu budd i iechyd ac economi Cymru.

 

 


Cyffur a ddarganfuwyd gan grŵp ymchwil Prifysgol Caerdydd yn destun treial clinigol Cam 1 yng Nghymru

Mae ymchwilwyr o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd  yn arwain y gwaith o ddatblygu triniaeth ar gyfer Nam Gwybyddol sy’n Gysylltiedig â Sgitsoffrenia. Gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome, bydd gwirfoddolwyr iach yn profi diogelwch a goddefgarwch cyffuriau mewn treial, gan fanteisio ar gryfderau Niwrowyddoniaeth De Cymru.

Mae’r astudiaeth glinigol yn cael ei chynnal yn Simbec-Orion, ym Merthyr Tudful, gydag astudiaethau niwroddelweddu yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.  Darperir swyddogaeth sgrinio a monitro niwroffisioleg pellach gan The Science Behind, cwmni Gwasanaeth Ymchwil Treialon Clinigol o Gaerdydd.

Dywedodd Simon Ward, Cyfarwyddwr MDI:

Cyflwr sy’n cael ei drin yn wael yw sgitsoffrenia, ac mae tua 1 ym mhob 100 o bobl yn cael episod o sgitsoffrenia. Y gobaith yw, unwaith y bydd y treialon wedi’u cwblhau, y bydd ein cyffur yn helpu cleifion i reoli’r episodau hyn ac yn cynnig triniaeth hollol newydd i’r gymuned hon o bobl nad ydynt wedi cael y cymorth sydd ei angen arnyntMae’r prosiect hwn yn dangos, drwy ddod â rhagoriaeth academaidd a sefydliadau masnachol yn Ne Cymru ynghyd, ei bod yn bosibl i ddarganfyddiadau gwyddonol yn labordai’r Brifysgol gyrraedd y clinig, lle mae ganddynt y potensial i drawsnewid bywydau cleifion."

 

 


Pobl â COVID hir a chyflyrau hirdymor eraill yn elwa ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymunedol

Ym mis Hydref 2022, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru adroddiad Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth a oedd yn amcangyfrif bod 96,000 (3%) o bobl yn dioddef o COVID hir yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid blynyddol o £8.3 miliwn i Adferiad i barhau i gefnogi pobl â Covid hir, a chyflyrau iechyd ôl-feirws hirdymor eraill fel enseffalomyelitis myalgic / syndrom blinder cronig (ME/CFS) a ffibromyalgia.

Lansiwyd rhaglen Adferiad yn 2021 gyda buddsoddiad o fwy na £10 miliwn i ddatblygu gwasanaethau cymunedol sy’n darparu diagnosis, triniaeth a chymorth adferiad i bobl sy’n profi effeithiau hirdymor COVID-19. Caiff pobl eu cynorthwyo gan dimau amlbroffesiynol gan gynnwys seicolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a nyrsys a gellir atgyfeirio pobl i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae buddsoddi mewn gwasanaethau Adferiad i gefnogi pobl sy’n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19 wedi bod yn flaenoriaeth i ni ac mae hynny’n parhau. Drwy ehangu mynediad at wasanaethau adferiad gallwn roi gwell cymorth i bobl â chyflyrau fel ME/CFS a ffibromyalgia i gael diagnosis, rheoli eu symptomau a chael mynediad at wasanaethau adferiad sy’n hanfodol i helpu i wella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.”

 

Ychwanegodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

Mae llawer o bobl gyda’r cyflyrau hyn yn teimlo nad yw eu hanghenion iechyd wedi’u bodloni dros y blynyddoedd, a bydd hyn yn ein galluogi i’w sicrhau y bydd gwasanaethau’n cael eu datblygu yn y gymuned, yn agosach at eu cartrefi, a fydd yn gallu eu cynorthwyo i reoli eu cyflyrau unigol.”

 

 


Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.