Mae Ysbrydoli Arloesedd yn gasgliad o’r straeon newyddion diweddaraf ar draws tirwedd arloesi Cymru. Wedi eu casglu gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector, maent yn dangos ecosystem ffyniannus Cymru a sut mae arloesi yn ategu’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Inspiring Innovation – April Edition

Ym mis Ebrill, gwelwyd arloesedd yn cael effaith yng Ngogledd a De Cymru. Mae technolegau newydd sydd â photensial tymor hir i wella canlyniadau iechyd ar raddfa leol a chenedlaethol wedi gwneud y mis hwn yn un cyffrous. 

 


Mae Copner Biotech wedi cael y patent cyntaf ar gyfer dulliau argraffu 3D i gynhyrchu sgaffaldau celloedd meithrin 3D.

Mae patent y DU yn caniatáu i’r busnes newydd o Lynebwy ddiogelu ei ddull arloesol sy’n darparu strwythur in vitro ar gyfer twf celloedd, gan ddynwared twf tiwmor yn y corff. Yn wahanol i feithrin celloedd 2D, mae technoleg Copner Biotech yn creu lluniadau celloedd 3D manwl gywir sy’n tyfu mewn sawl cyfeiriad, gan efelychu twf celloedd mewn organeb. Maent yn fwy ffisiolegol berthnasol ar lwybr clefydau, sgrinio cyffuriau, meithrin celloedd ac  ymchwil peirianneg meinweoedd.

Cafodd Copner Biotech gymorth drwy Raglen Cynyddu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Fe wnaethom gyflwyno’r cwmni i Ganolfan Technoleg Iechyd Prifysgol Abertawe i’w helpu i gael gwybodaeth hanfodol am eu cynnyrch na fyddai wedi bod yn bosibl yn fewnol. Mae cydweithio’n digwydd nawr gyda nifer o brifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru, yn ogystal â phrifysgolion arweiniol yn Lloegr fel Coleg y Brenin yn Llundain, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caergrawnt.

 


Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dechrau cynnal prawf diagnostig cyflym arloesol ar gyfer cyneclampsia.

Cyneclampsia yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o forbidrwydd ymysg mamau. Mae’n effeithio hyd at 6% o famau beichiog yn y DU, gan achosi cymhlethdodau megis cyfyngu ar dwf yn y groth, genedigaeth cyn-pryd a gwahanu’r brych, gan arwain at fynd i'r ysbyty ar frys ac efallai gorfod aros am gyfnod estynedig mewn ward famolaeth neu uned gofal dwys. Nid yw’r diagnosis presennol sy’n defnyddio profion wrin a gwaed i ganfod dangosydd o gyneclampsia yn ddigon sensitif i ragfynegi canlyniadau cleifion.

Mae Quidel wedi datblygu prawf imiwnedd fflworoleuedd meintiol cyflym sy’n mesur lefelau’r dangosydd hwn yn gywir ac yn gyflym yn y pwynt gofal. Gallai hyn ysgogi triniaeth i atal cymhlethdodau neu brofion pellach.

Mae Comisiwn Bevan hefyd wedi hyrwyddo’r prosiect fel Prosiect Enghreifftiol Bevan yn y Senedd, gyda’r nod o gyflwyno’r prawf yn ehangach ledled gweddill Cymru.

Dywedodd Dr Lynda Verghese, Gynaecolegydd ac Obstetregydd Ymgynghorol ac Arweinydd y Ward Geni yn Ysbyty Maelor Wrecsam:

“Mae’r prawf hwn a wneir yn y lleoliad gofal yn gam gwych a chadarnhaol ymlaen ym maes gofal mamolaeth. Yr hyn sy’n hollbwysig am y prawf yw y gellir ei gynnal yn syth bin gyda’r cleifion ar y ward mamolaeth, gan osgoi unrhyw oedi posibl a rhoi tawelwch meddwl pwysig i’r tîm meddygol a’r claf, gan leihau pryder a chaniatáu i famau ddychwelyd adref yn ddiogel ar gyfer eu goruchwylio fel cleifion allanol."

 

 


Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi. Gyda’n gilydd, gallwn drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.