Catalydd Biofeddygol 2022 Rownd 2: Mae cystadleuaeth ariannu ymchwil a datblygu dan arweiniad y diwydiant bellach ar agor i geisiadau tan 12 Hydref. Mae cyfran o hyd at £25 miliwn ar gael gan Innovate UK ar gyfer datblygu atebion arloesol i heriau gofal iechyd. 

Bwlb golau gyda cogiau

Gall ymgeiswyr gyflwyno prosiectau ymchwil a datblygu nad ydynt eto’n barod ar gyfer y farchnad, yn canolbwyntio ar unrhyw sector neu ddisgyblaeth gofal iechyd, gan gynnwys iechyd digidol. Mae’r pynciau posibl i’w harchwilio yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: 

  • Atal clefydau a rheoli iechyd a chyflyrau cronig yn rhagweithiol. 
  • Canfod a diagnosio clefydau’n gynt ac yn well er mwyn gwella’r canlyniadau i gleifion. 
  • Triniaethau wedi’u teilwra sydd un ai’n newid y clefyd sylfaenol neu’n cynnig atebion posibl. 
  • Trawsnewid darpariaeth gofal iechyd. 

Pwy all wneud cais? 

Rhaid i’ch prif sefydliad fod yn fusnes micro, bach neu ganolig sydd wedi’i gofrestru yn y DU. Gall y rhai sy’n cyflwyno cais ar y cyd fod yn fusnes o unrhyw faint, yn sefydliad academaidd, yn elusen, yn sefydliad nid-er-elw, yn sefydliad sector cyhoeddus, neu’n sefydliad ymchwil a thechnoleg. 

Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth gyfredol o ddichonoldeb masnachol a thechnegol. Rhaid iddynt hefyd egluro sut y byddant yn gwella cystadleurwydd a chynhyrchiant o leiaf un BBaCh yn y DU sy’n rhan o’r prosiect. 

Gwybodaeth allweddol a dyddiadau ar gyfer gwneud cais 

15 Awst: Y gystadleuaeth yn agor 

23 Awst, 11:30am: Digwyddiad briffio ar-lein 

12 Hydref 2022, 11:00am: Y gystadleuaeth yn cau 

I ddysgu mwy am sut i wneud cais a’r broses ymgeisio, ewch i wefan y Gwasanaeth Ariannu Arloesedd. 

Ewch i dudalennau gwe’r Gwasanaeth Ariannu Arloesedd i gael rhagor o wybodaeth a chysylltu â hello@lshubwales.com i gael cymorth gyda cheisiadau ar y cyd.