Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed gyda digwyddiad rhithwir oedd yn cynnwys siaradwyr o bob rhan o'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac arloesi yng Nghymru.
Mae'r sefydliad, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn asesu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau, ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.
Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i letya gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Cymru, ond mae’n annibynnol ar y ddau.
Ers ei sefydlu, mae wedi cyhoeddi mwy na 30 o ddarnau o ganllawiau cenedlaethol ar dechnolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau.
Hyd yn hyn, mae gan y canllawiau cenedlaethol sydd yn cael eu cyhoeddi gan Dechnoleg Iechyd Cymru y potensial i effeithio ar fywydau tua 365,515 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn.
Daeth Technoleg Iechyd Cymru yn Bartner Cydweithredol Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn 2020, ac mae wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i ateb anghenion y sector gofal cymdeithasol yn well.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd ei Archwiliad Mabwysiadu Peilot, a astudiodd effaith canllawiau cenedlaethol HTW yng Nghymru. Fe wnaeth yr archwiliad ddarganfod bod canllawiau cenedlaethol sydd wedi cael eu cyhoeddi gan HTW yn cael effaith yn y rhan fwyaf o achosion.
Meddai'r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:
"Rwy'n falch dros ben bod Technoleg Iechyd Cymru wedi cyflawni cymaint yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac wedi tyfu'n sefydliad Asesu Technoleg Iechyd aeddfed, effeithiol ac eang ei barch. Rwyf yr un mor gyffrous am y dyfodol, ac yn hyderus y bydd HTW yn parhau i ddatblygu mewn dylanwad ac effaith.”
Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW:
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'n partneriaid ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol am weithio gyda ni i gyflawni ein nodau, sef cefnogi mabwysiadu technolegau effeithiol a chost-effeithiol sydd yn cynnig canlyniadau gofal gwell i bobl Cymru."
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad oedd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae HTW wedi lansio animeiddiad hefyd, sydd wedi cael ei greu i nodi'r pen-blwydd, ac sy'n tynnu sylw at ei gyflawniadau allweddol hyd yn hyn.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Technoleg Iechyd Cymru.