Heddiw mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) wedi lansio’r adroddiad diweddaraf o’u cyfres Cyswllt RCP Connect o ymweliadau ag ysbytai yng Nghymru.

Medical team walking down a hospital corridor.

Yn ystod yr ymweliadau hyn, mae’r coleg yn cwrdd â meddygon ymgynghorol, meddygon iau, cymdeithion meddygol a rheolwyr y GIG ar gyfer trafodaethau eang am heriau lleol a phwysau ar systemau. Mae straeon o'r rheng flaen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnwys:

  • Trin canser yr ysgyfaint mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell
  • Lleihau derbyniadau i'r ysbyty a chael pobl adref yn gyflymach
  • Dod â rhestrau aros cardioleg i lawr
  • Ffyrdd newydd o addysgu meddygon iau ar draws gwahanol ysbytai.

Mae’r ymweliadau hyn yn darparu ffynhonnell wybodaeth werthfawr i swyddogion Coleg Brenhinol y Meddygon. Gellir defnyddio’r adroddiadau hyn i ddal byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i gyfrif wrth ddarparu gofal rhagorol i gleifion sy’n diwallu anghenion pobl ledled Cymru. Maent yn rhoi llais cryfach i gymrodorion ac aelodau Coleg Brenhinol y Meddygon, gan ganiatáu iddynt siarad yn rhydd a chodi pryderon mewn lle diogel. Maent hefyd yn rhoi cyfle i glinigwyr dynnu sylw at arferion da a dathlu cyflawniadau cyd-weithwyr.

Yn ystod yr ymweliad diweddaraf hwn, cyfarfu Coleg Brenhinol y Meddygon â staff a chlinigwyr yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli ac Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Clywodd tîm Coleg Brenhinol y Meddygon am sut mae meddygon yng ngorllewin Cymru yn trawsnewid gwasanaethau canser mewn ardaloedd gwledig, sut mae arbenigwyr calon yn mynd i’r afael ag ôl-groniad y pandemig, a sut mae timau’n darparu gofal integredig ymatebol yn y gymuned i gael pobl allan o’r ysbyty ac yn ôl adref yn gyflymach. Mae’r coleg wedi cofnodi’r astudiaethau achos hyn yn ein hadroddiad, a bydd yn rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda sefydliadau eraill yng Nghymru.

Cofiwch rannu'r adroddiad hwn gyda'ch rhwydweithiau!