Mae’n bleser gennym gefnogi Gwobrau GIG Cymru wrth i’r digwyddiad ddychwelyd i Gaerdydd ar 20 Hydref 2022 fel seremoni wyneb yn wyneb am y tro cyntaf mewn tair blynedd. Nod y digwyddiad yw cydnabod gwaith a chyflawniadau anhygoel pobl a thimau sy’n gweithio ar draws y GIG yng Nghymru.

sgrin gliniadur a chlinigydd

Mae’r Gwobrau’n chwarae rhan bwysig o ran cydnabod y gwaith pwysig, arloesol ac ysbrydoledig sy’n cael ei wneud ar draws GIG Cymru. Ceir amrywiaeth eang o gategorïau i arddangos llwyddiannau’r sector:

  • Darparu gwasanaethau iechyd a gofal gwerth uwch
  • Darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau gofal
  • Cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal
  • Iechyd a lles
  • Gwella diogelwch cleifion
  • Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru
  • Gweithio’n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector
  • Cyfraniad eithriadol at drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi’r gwobrau mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd ein tîm yn bresennol yn y digwyddiad i helpu i ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan bobl sy’n gweithio ar draws y GIG a’r sefydliadau sy’n cydweithio â nhw.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Rydyn ni’n falch o gefnogi Gwobrau’r GIG 2022. Mae pobl wedi gweithio’n ddiflino dros y tair blynedd ddiwethaf i ymateb i Covid-19 ac i gyflawni’r trawsnewid sydd ei angen i addasu ein GIG a diwallu anghenion newidiol ein poblogaeth.”

Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae ein GIG yn cyflawni arloesi er mwyn gwella canlyniadau cleifion, canlyniadau gofal a rhai clinigol, a hynny trwy ddarparu rhaglenni lleol i drawsnewid y system gyfan. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bodoli i helpu i gefnogi’r math hwn o arloesi ac, fel erioed, mae’n awyddus i gydnabod y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud yn barod”.

I ddysgu mwy am Wobrau GIG Cymru 2022, ewch i Wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.