Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gymryd rhan yng Nghynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa Conffederasiwn GIG Cymru eleni, a gynhelir ar 1 Tachwedd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd. 

eiconau meddygol

Mae’r digwyddiad yn denu siaradwyr, panelwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant iechyd, gofal cymdeithasol a’r diwydiant, gan roi cyfle i rwydweithio a thrafod yr heriau a’r cyfleoedd diweddaraf sy’n effeithio ar eu meysydd. 

Mae agenda amrywiol yn cynnwys sgyrsiau diddorol, sesiynau llawn gwybodaeth a chyfarfodydd grŵp a gynhelir gan arweinwyr syniadau o bob rhan o’r sectorau, gan gynnwys ‘Arloesi i Leddfu: Gweddnewid iechyd a gofal yng Nghymru gydag atebion cymunedol a digidol’, dan gadeiryddiaeth Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Dyma pryd bydd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, yn dangos sut y buom yn gweithio’n agos gyda Healthy.io a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i hybu’r gwaith o drawsnewid y GIG gan ddefnyddio ateb digidol sy’n golygu bod modd monitro clwyfau cleifion o bell o gysur eu cartref eu hunain. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae’r gynhadledd eleni yn gyfle gwych i ymgysylltu â rhanddeiliaid hen a newydd ac i weld sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i drawsnewid ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno un enghraifft o sut gall arloesedd digidol wneud gwahaniaeth i gleifion a staff clinigol – gan ddod â gofal yn nes at adref a gwella effeithlonrwydd.” 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a chofrestru i fynychu, ewch i wefan Conffederasiwn y GIG.