Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi lansio’r gyfres ddiweddaraf o’u podlediad ‘Syniadau Iach’.
Mae’r gyfres yn cynnig persbectif newydd gan feddylwyr blaenllaw wrth iddynt drafod pynciau diddorol a phwysig sy’n effeithio ar arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol:
-
Ym mha ffordd mae arloesi’n allweddol i gael Cymru iachach? Yma mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn trafod y cynlluniau presennol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu GIG Cymru, fel yr ôl-groniad sylweddol mewn apwyntiadau cleifion a’r angen am ddiagnosis cynnar ar gyfer clefydau fel canser.
-
Tabledi lawr y draen, beth yw’r effaith amgylcheddol? Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau, Gogledd Orllewin Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru ac Elen Jones, Cyfarwyddwr Cymru – Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, yn trafod effeithiau amgylcheddol a gofal iechyd difrifol gwaredu meddyginiaethau i’n systemau dŵr.
-
Pa ddata amdanom ni mae’r GIG yn casglu, a sut mae’n cael ei ddefnyddio? Richard Walker, cyn Bennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n gofyn y cwestiynau pwysig am ein data, gan drafod faint ohono sydd ar gael, sut mae’n cael ei ddefnyddio, a phwy sy’n elwa arno.
-
A all deallusrwydd artiffisial drawsnewid diagnosis cleifion Cymru? Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth – Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy’n trafod sut mae ein data gofal iechyd yn trawsnewid gwasanaethau diagnostig ac yn gwella gwasanaethau gofal iechyd.
-
Datblygu technoleg ddwyieithog: ydy Cymru ar flaen y gad? Gareth Rees, Arweinydd y Rhaglen Arloesi Strategol gyda Delta Wellbeing a Huw Marshall, Sylfaenydd Annwen Cymru, sy’n ystyried sut y gall technoleg gynorthwyol helpu pobl i fyw bywydau iachach, mwy cynhyrchiol ac annibynnol.
-
Dyfodol digidol y GIG. Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth – Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid ac sydd â chyfrifoldeb am eu gwasanaethau digidol, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n ystyried dyfodol digidol ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a beth fydd effaith hyn i gyd arnom fel cleifion.
Mae’r podlediad Cymraeg yn cael ei gyflwyno gan ein Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Rhodri Griffiths.
Meddai Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd:
“O rym data mawr mewn gofal iechyd i effaith sylweddol taflu meddyginiaethau i lawr y draen, mae wedi bod yn fraint cael gwrando ar arweinyddion o bob rhan o Gymru’n trafod rhai o’r pynciau pwysicaf sy’n effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol ar y podlediad Syniadau Iach.”
Bydd pob pennod o Syniadau Iach yn cael eu rhyddhau bob dydd Mawrth am chwe wythnos, o 7 Mehefin 2022 ymlaen, ar amryw o safleoedd podledu gan gynnwys Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts.
Fel arall, gallwch wrando trwy Spreaker isod: