Mae prawf gwaed syml sy’n canfod canser y coluddyn yn gynt – ac yn gwella’r siawns o oroesi i filoedd o gleifion un cam yn nes at fod ar gael ar y GIG, ar ôl dangos canlyniadau rhagorol mewn treial gofal sylfaenol.
Mae'r prawf gwaed Sbectrometreg Raman (RS) wedi'i ddatblygu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe dan arweiniad yr Athro Dean Harris a Peter Dunstan, gyda chyllid gan Ymchwil Canser Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae cymorth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru bellach wedi galluogi busnes newydd o Gymru, ‘CanSense’ i sicrhau £1.2 miliwn ychwanegol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i ddatblygu ymhellach y prawf gwaed i’w ddefnyddio mewn ymarfer clinigol ledled Cymru.
Dangosodd canlyniadau o'r astudiaeth arloesol a oedd yn cynnwys 27 o bractisau a 595 o gleifion ar draws Gorllewin Cymru 79 y cant o ganserau'r coluddyn yn y cyfnod cynnar a chafodd 100 y cant o ganserau datblygedig y coluddyn eu nodi gan y prawf.
Mae cymariaethau cynnar â phrofion eraill sydd ar gael ar hyn o bryd mewn gofal sylfaenol wedi dangos bod gan y prawf gwaed RS fwy o sensitifrwydd i ganfod canser y coluddyn.
Y gobaith yw y bydd y prawf anfewnwthiol yn cwtogi'n sylweddol ar amseroedd aros am ddiagnosis ac yn lleihau'r angen am driniaethau ymledol megis colonosgopïau.
Canser y coluddyn ar hyn o bryd yw ail brif achos marwolaeth canser yng Nghymru, gydag amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth ymhlith yr hiraf yn y byd datblygedig.
Yn anffodus, mae llawer o’r 2,200 o achosion sy’n cael diagnosis yng Nghymru bob blwyddyn yn cael eu canfod ar gam datblygedig, fel Lynda, 66, o Abertawe.
Meddai:
“Cefais ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Mehefin 2021. Es at y meddyg teulu gydag ychydig bach o waed yn fy ngharthion a chefais fy nghyfeirio at yr ysbyty i gael ymchwiliad.
“Doedd gen i ddim llawer o symptomau. Rwy'n berson heini ac actif iawn, felly roeddwn i'n meddwl mai'r rheswm dros golli pwysau oedd bod yn gorfforol actif iawn yn y pwll, y gampfa ac ar fy meic.
“Fe ddaeth yn sioc enfawr i mi ddarganfod bod gen i 12cm o ganser yn fy ngholuddyn – ac roeddwn i angen triniaeth ar unwaith i achub fy mywyd.”
Ychwanegodd Lynda – sydd bellach â stoma ac sy’n rhydd o ganser:
“Drwy gyflwyno profion gwaed fel hyn, rwy’n credu y gallwn achub llawer mwy o fywydau yn y dyfodol ac atal diagnosis hwyr o ganser y coluddyn yn y mwyafrif o achosion.”
Ar hyn o bryd, mae nifer uchel o golonosgopïau diangen yn cael eu cynnal yng Nghymru i sicrhau bod achosion o ganser y coluddyn yn cael eu canfod.
Ers dechrau'r pandemig, mae rhestrau aros ar gyfer y driniaeth wedi cynyddu'n sylweddol - gydag ychydig o dan 8000 o gleifion yn aros i gael eu sgrinio ar hyn o bryd. Mae hanner y rhain wedi aros mwy na thri mis.
Gall yr oedi hwn leihau'r siawns y bydd cleifion yn goroesi, gyda llawer o bobl yn cael diagnosis yn rhy hwyr.
Mae'r prawf gwaed y mae CanSense yn ei ddatblygu yn gobeithio newid hynny i gyd trwy ddarparu canlyniadau cywir o fewn 48 awr, atal colonosgopïau diangen a lleddfu pwysau ar y GIG.
Dr Cerys Jenkins yw Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr CanSense. Dechreuodd ei hymchwil i dechnoleg Raman wyth mlynedd yn ôl pan gafodd ei hariannu gan Ymchwil Canser Cymru i gwblhau PhD ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd Cerys – yr oedd ei thad-cu â chanser y coluddyn –:
“Y nod ar gyfer yr ymchwil hwn erioed fu ei drosi’n rhywbeth sy’n cyd-fynd â llwybr presennol y claf. Byddai cael y prawf hwn ar gael yn y cam brysbennu yn arbed amser, arian, ond yn bwysicaf oll yn arbed y cleifion rhag pryder a phrofion diagnostig diangen.
“Cafodd fy nhad-cu ddiagnosis o ganser y coluddyn 30 mlynedd yn ôl, a dywedodd mai’r colonosgopi oedd profiad mwyaf gwaradwyddus ei fywyd. Nid ydym wedi symud ymlaen o’r sefyllfa hon ers tri degawd. Ac er na fyddem byth yn ceisio disodli colonosgopïau fel y safon aur mewn diagnosteg, gallai’r prawf Raman ddod yn arf pwysig i wella canlyniadau iechyd ledled Cymru.”
Wrth siarad ar eu rhan yn y prosiect, dywedodd Ann Tate, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:
“Fel elusen, mae buddsoddi’n helaeth mewn ymchwil i wella diagnosis canser yn rhan o’n DNA. Mae pob claf canser yng Nghymru yn haeddu triniaethau arloesol ar gyfer dyfodol gwell ac mae’r prawf hwn yn darparu ateb i glinigwyr wneud diagnosis o ganser yn gynharach. Dim ond oherwydd cefnogaeth pobl ledled Cymru y bu ein cyfraniad ni’n bosibl, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hynny.”
Bydd cyllid a sicrhawyd trwy NIHR y DU gyda chefnogaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru nawr yn caniatáu i'r tîm ymchwil yn Abertawe ddatblygu'r prawf yn fformat ardystiedig i'w ddefnyddio mewn meddygfeydd ledled y DU.
Mae’r grant Dyfeisio ar gyfer Arloesi o £1.2 miliwn yn darparu map ffordd ar gyfer cymeradwyaeth reoleiddiol a datblygu cynnyrch i ganiatáu i’r prawf gael ei ddefnyddio o fewn y GIG o fewn 2 flynedd.
Dywedodd Adam Bryant, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Busnes CanSense:
“Am yr wyth mlynedd diwethaf, mae ein tîm wedi ymroi i greu rhywbeth yr ydym yn credu sydd mor gyffrous ag y mae’n chwyldroadol. Bellach mae gennym ni brawf profedig, cyflym a fforddiadwy a all achub miloedd o fywydau. Gyda chydweithio a chyllid parhaus, mae gennym bellach lwybr clir i sicrhau bod y prawf hwn ar gael i feddygon teulu yng Nghymru a thu hwnt.”
Wrth sôn am rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn sicrhau’r cyllid, dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol:
“Mae diagnosis a chanfod canser yn gynharach gan ddefnyddio dulliau llai ymledol yn rhan hanfodol o’r agenda ataliol i wneud gofal iechyd yn fwy effeithlon a gwella canlyniadau cleifion. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn drwy ein gwasanaethau cymorth ariannol ac edrychwn ymlaen at weld ei effaith ledled Cymru.”