Lleoliad: Hybrid – cyfuno eich amser yn gweithio o bell, yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd, a gyda phartneriaid ledled Cymru a’r tu hwnt
Yn atebol i’r: Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd
Cyflog: £68,770
Oriau: Llawn-amser (37.5 awr yr wythnos)
Cyfnod: Cyfnod Mamolaeth (hyd at 12 mis)
Pwrpas Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw sicrhau mai Cymru sy’n cael ei ddewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a llesiant. Rydym yn dod â diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd a'r llywodraeth ynghyd i sbarduno cydweithio effeithiol, cyflymu'r broses o fabwysiadu atebion arloesol, a sicrhau manteision i bobl, i gleifion ac i'r economi.
Rydym yn chwilio am Bennaeth Partneriaethau profiadol a brwdfrydig i arwain ein gwaith strategol o ymgysylltu â rhanddeiliaid, a darparu Partneriaethau yn ystod cyfnod mamolaeth am 12 mis. Byddwch yn ymuno ag Uwch Dîm Rheoli’r Hwb, yn arwain tîm o saith person, ac yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gryfhau a thyfu partneriaethau ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Gwybodaeth am y swydd
Gan weithio'n agos gyda'n Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a darparu dull strategol a phenodol o ymgysylltu yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Byddwch yn cysylltu ac yn dylanwadu ar draws diwydiant, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd, y llywodraeth, cyrff proffesiynol ac asiantaethau cymorth, gan feithrin perthnasoedd cryf sy'n cyflawni effeithiau mesuradwy. Gan weithredu fel uwch gynrychiolydd y sefydliad, byddwch yn adnabod cyfleoedd sy'n mynd i'r afael ag anghenion clinigol, yn sbarduno llif cryf o brosiectau arloesi, ac yn sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddwch yn goruchwylio'r gwaith o weithredu ein strategaeth ymgysylltu a'n cynllun rheoli cyfrifon, gan arwain y gwaith o fapio rhanddeiliaid mewn dull targedol, rheoli cysylltiadau ac adeiladu rhwydweithiau. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r GIG, rhwydweithiau clinigol a'r sector gofal iechyd a gwyddorau bywyd ehangach i gwmpasu a hyrwyddo cyfleoedd arloesi, goruchwylio'r Tîm Partneriaethau i gyflwyno cynlluniau cyflawni partneriaeth allweddol, darparu rhaglenni ymgysylltu strategol a chydlynu ein portffolio blynyddol o ddigwyddiadau sefydliadol. Byddwch yn cynrychioli’r Hwb ar lefel Cymru a'r DU, gan hyrwyddo cydweithio, sicrhau buddsoddiad, a rhannu’r arferion gorau o bob rhan o'r gymuned arloesi iechyd fyd-eang.
Fel aelod o'r Uwch Dîm Rheoli, byddwch yn arwain tîm cryf a chydweithredol o saith person, gan sicrhau bod cynlluniau strategol a gweithredol yn cael eu cyflawni. Byddwch yn sbarduno prosesau effeithiol ar gyfer ymgysylltu, yn goruchwylio'r gwaith o fonitro ac adrodd ar berfformiad, ac yn cyfrannu at strategaeth a llywodraethiant sefydliadol. Mae'r swydd hon yn cyfuno arweinyddiaeth, dylanwad strategol a darpariaeth ymarferol, gan sicrhau bod gweithgareddau ymgysylltu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bwrpasol, yn fesuradwy ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau iechyd, gofal ac economaidd yng Nghymru.
I weld holl fanylion y swydd hon, darllenwch y swydd ddisgrifiad.
Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?
- Ymunwch â ni er mwyn bod yn aelod o dîm bach a chyfeillgar
- Diwylliant gwaith cynhwysol a hyblyg
- Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd
- Cefnogol o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl gwyliau hael - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 11% gan y cyflogwr
Gwnewch gais nawr!
Anfonwch neges e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda ffurflen cyfle cyfartal wedi’i llenwi, eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen A4 o hyd) yn egluro sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd hon, a pham eich bod yn credu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.
Rhaid i’ch cais ein cyrraedd ni wedi ei gwblhau erbyn ar 5pm ar 17 Medi 2025.
Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar 30 Medi 2025.
Os hoffech chi gael sgwrs gychwynnol anffurfiol i gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Dr. Rhodri Griffiths ar rhodri.griffiths@lshubwales.com neu Dr Naomi Joyce ar naomi.joyce@lshubwales.com.