Mae Syniadau Iach yn trafod technoleg a’r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o’r GIG y dyfodol.
Yn 2021 crëwyd corff newydd i symud trawsnewid digidol ym maes iechyd a gofal ymlaen, sef Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Awdurdod iechyd arbennig sydd â rôl bwysig i gefnogi a newid y ffordd mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu.
Yn y podlediad yma mae Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth – Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) a Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod mwy am y datblygiad yma.
Mae Ifan am weld pensaerniaeth gwahanol yn cael eu sefydlu ar gyfer systemau digidol fydd yn fwy cyson ar draws Cymru.
“Dwi am weld e’n fwy haws i systemau siarad a’i gilydd ac i wneud yn siwr fod data’n cael eu gadw mewn ffordd fydd yn ei gwneud e’n fwy hygyrch ar draws Cymru,” medd Ifan.
Mae Ifan yn ymhelaethu ar rôl y newydd: “Dyw’r corff newydd ddim yn darparu yr holl wasanaethau digidol i’r GIG a gofal cymdeithasol; mae’r byrddau iechyd yn darparu peth hefyd. Ond mae angen rhywun i gydlynu’r system, rhywun sy’n helpu i lywio y system yn ei gyfanrwydd,” meddai.
Yn ôl Huw mae llawer o’r cyfarpar meddygol nawr yn cysylltu gyda’r we. Mae’n sôn am un enghraifft fel ‘syringe drivers’ sy’n rhoi cyffuriau pwerus i mewn i’r corff.
“Mae cysylltu hyn i’r we wedi rhoi y tools inni i gadw pobl yn fwy diogel trwy rheoleiddio y ffordd mae rhain yn gweithio.” Medd Ifan.
Mae’n ychwanegu fod rhaid cadw pethau yn syml: “Os wnewn ni ein systemau yn gymhleth dyw pobl ddim yn mynd i’w defnyddio nhw yn y dyfodol.”
“Ma na ddatblygiadau nawr trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddechrau dod a’n systemau ni at ei gilydd a defnyddio technegau robotig i drin data… fydd hwn yn arloesol i ni,” meddai Huw.
Gwrandewch nawr:
Fel arall, gallwch wrando ar bodlediad Syniadau Iach ar: Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts.
Healthy Thinking
Yn ein chwaer podlediad Saesneg, Healthy Thinking mae Chris Martin yn trafod dyfodol y gwasanaeth iechyd yn y bennod ‘How NHS Wales is using innovation to bounce back after COVID-19’ gyda Paul Mears a Linda Prosser o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwrandewch nawr.