Step complete
Step complete
Step complete

Mae tîm amlddisgyblaethol o bartneriaid yn cydweithio i ddeall y gwerth a geir o ddefnyddio’r ddyfais brofi NGPOD arloesol ar gyfer cleifion sydd angen tiwbiau bwydo nasogastrig. Defnyddir y rhain pan na all cleifion lyncu bwyd, hylifau neu feddyginiaeth

Mae profi’n hanfodol gan fod tiwb sydd wedi’i osod yn anghywir yn gallu arwain at ganlyniadau negyddol. Fodd bynnag, gall y drefn brofi bresennol gymryd llawer o amser, sy’n galw am ddehongli’r mesur pH, gyda’r claf hefyd o bosibl angen pelydr x i gadarnhau’r canlyniadau.

Mae NGPOD Global Ltd wedi datblygu NGPOD i helpu i gael gwared ar yr heriau hyn. Mae’r dechnoleg hon yn defnyddio synwyryddion hyblyg sy’n cael eu mewnosod yn y tiwb nasogastrig i bennu lefel pH ddiogel yn gyflym ac yn gywir, ac a all bwydo trwy nasogastrig ddechrau.

Mae NGPOD Global yn ariannu’r gwaith o werthuso’r gwasanaeth, yn cyflenwi’r dyfeisiau a darparu hyfforddiant i staff gofal iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle bydd y dyfeisiau’n cael eu treialu yn eu wardiau strôc gofal eilaidd.

Ar ben hynny, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau datblygu prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymorth cyfathrebu, a bydd TriTech yn ysgrifennu’r gwerthusiad terfynol gan ddefnyddio dadansoddiad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch drwy anfon e-bost at hello@lshubwales.com.

Testunau
Digidol Value-Based Health Care
Bwrdd Iechyd
  • Hywel Dda University Health Board
  • Swansea Bay University Health Board
Partneriaid / Ffynonellau Cyllid

NGPOD, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Sefydliad TriTech

  • Diweddariadau
  • Canlyniadau
Completed

Mawrth 2022Lansio gwerthusiad gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bydd yr astudiaeth hon yn helpu timau clinigol, diogelwch, caffael ac uwch-reolwyr i ddeall gwerth rhoi NGPOD ar waith fel dewis amgen yn lle profion stribed pH ar gyfer cleifion sydd angen bwydo nasogastrig. Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso os yw’r driniaeth yn addas i’r claf, os yw’n gost effeithiol ar draws y system iechyd mewn sefyllfaoedd go iawn ac a yw NGPOD yn effeithio ar ganlyniadau cleifion.

Gobeithir y bydd y prosiect yn dangos gostyngiad mewn ceisiadau pelydr X, ochr yn ochr â gwella effeithlonrwydd profion nasogastrig ac oedi cyn triniaeth. Os gwelir gostyngiad yn nifer y pelydrau X, gallai hyn leihau’r gost gyffredinol o osod tiwb nasogastrig a rhyddhau capasiti mewn adrannau radioleg.