Step complete
Step complete
Step complete

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Digipharm, Roche Diagnostics a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio i ddatblygu ac i asesu dull caffael arloesol seiliedig ar werth sy’n cyflawni gwerth a chanlyniadau sy’n bwysig i gleifion ac i staff gofal iechyd. Bydd hyn yn canolbwyntio ar addasu dulliau presennol o ddiagnosio cleifion sydd â methiant y galon a datblygu prosesau a fydd yn cyfrannu at benderfyniadau caffael. Y prawf diagnosis o fethiant y galon yr ymchwilir iddo yw NTproBNP, prawf gwaed syml a chyflym sy’n mesur nifer y proteinau y mae’r galon yn eu cynhyrchu pan fydd yn wynebu straen. 

Bydd yr holl bartneriaid yn gweithio’n agos drwy gydol y prosiect, a fydd yn cael ei ddarparu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg lle bydd timau clinigol, caffael, gweithredol a gwybodeg yn cefnogi’r gwaith.

Mae Roche yn gweithgynhyrchu ac yn darparu NTproBNP, ynghyd â chymorth gwella ansawdd a mewnbwn caffael i'r prosiect.

Mae'r prosiect yn defnyddiollwyfan contractio clyfar Digipharm i gasglu a rheoli data canlyniadau a fydd yn darparu gwybodaeth am gymorth penderfyniadau i glinigwyr a thimau caffael.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig cymorth rheoli prosiectau a chyfathrebu.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni drwy e-bostio hello@lshubwales.com

Testunau
Procurement Value-Based Health Care
Bwrdd Iechyd
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Partneriaid / Ffynonellau Cyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Digipharm, Roche Diagnostics, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Dyddiad dechrau
Dyddiad Cwblhau
  • Diweddariadau
  • Adroddiad Prosiect Llawn
  • Gwersi a Ddysgwyd
  • Canlyniadau
  • Allbynnau
Completed

10 Tachwedd 2021

Prosiect wedi ei lawnsio yn Wythnos Gwerth mewn Iechyd 2021

test

test

Gall Byrddau Iechyd wella’r modd y caiff cleifion eu rheoli a’u canlyniadau os byddant yn gwella’r defnydd o NTproBNP. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddull gweithredu cyson ar gyfer defnyddio NTproBNP, felly mae’n cael ei ddefnyddio’n wahanol ar draws y Bwrdd Iechyd.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn, mae angen i ni ddeall llwybrau cleifion, y gweithlu ac atgyfeirio cleifion yn llawn, a chymorth hyfforddiant meddygol yng nghyd-destun defnyddio NTproBNP. Bydd hyn yn helpu i greu dull mwy cynaliadwy o gaffael sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys deall sut mae profion NTproBNP yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn y llwybr methiant cronig y galon.

Ar ddiwedd y prosiect, ceir dull prynu cydweithredol arfaethedig i weithredu NTProBNP yn y tymor hir, a fydd yn cael ei ategu gan ddata Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chytundeb contractio sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Gallai’r wybodaeth hon wedyn weithredu fel yr arfer gorau ar gyfer adrannau eraill a Byrddau Iechyd sy’n dymuno ymgorffori caffael sy’n seiliedig ar werth cynaliadwy yn eu llif gwaith.

test