Mae EIDC wedi bod yn gweithio gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg i gynnal peilot yn profi tracio RFID. Mae tagiau goddefol wedi cael eu rhoi ar sganwyr bledren, cadeiriau olwyn a gwelyau rhent ledled yr ysbyty, ynghyd â meddalwedd i roi gwybodaeth amser go-iawn i staff ar ble mae offer. Roeddem am ddeall y buddion technoleg i gleifion, staff a’r ysbyty ac felly comisiynwyd gwerthusiad allanol i benderfynu ar yr achos busnes dros fabwysiadu'r dechnoleg hon.
Yn ystod datblygiad y prosiect hwn, rydym hefyd wedi gallu cynnwys peilot pythefnos o dracio cleifion, i nodi'r teithiau corfforol y mae cleifion yn eu cymryd o amgylch yr ysbyty i helpu i ddylunio gwasanaethau yn well yn y dyfodol.
Darllenwch yr astudiaeth achos lawn
- Ysbyty Brenhinol Morgannwg
- Kinsetsu
- RHCS
Peilot yn Gorffen
Mae'r prosiect wedi dod i ben, gyda'r tîm yn derbyn yr adroddiad gwerthuso ym mis Rhagfyr 2019. Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi penderfynu buddsoddi yn y dechnoleg o ganlyniad i'r peilot. Mae'r camau nesaf i'r tîm yn cynnwys lledaenu’r dysgu gyda byrddau iechyd eraill ac archwilio'r potensial i ehangu'r prosiect hwn i ganiau ocsigen.
Peilot yn Digwydd
The six-month pilot is underway at Royal Glamorgan Hospital. Initial findings from the pilot and the proposed evaluation process were presented at the DHEW 'Evaluating Evaluation' event in September 2019.
Installation
Mae'r peilot chwe mis yn digwydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cyflwynwyd canfyddiadau cychwynnol y peilot a'r broses werthuso arfaethedig yn nigwyddiad 'Gwerthuso Gwerthusiad' EIDC ym mis Medi 2019.
Gosod
Gosod darllenwyr a thagiau, gan integreiddio'r feddalwedd i systemau'r ysbyty, gan gynnwys tîm TGCh yr ysbyty.
Cwblhau Cwmpas y Prosiect
Cawsom lawer o gyfarfodydd i ddatblygu cynllun terfynol y prosiect - pa seilwaith presennol y byddai angen ei gynnwys neu ei uwchraddio? I ble fydd y darllenwyr yn mynd? Sut y byddwn ni'n tagio'r offer? Sut bydd y meddalwedd tracio yn gweithio gyda'r Llyfrgell Asedau?
Archebwyd technoleg ym mis Rhagfyr 2018.
Proses Gaffael
Fe wnaethom gyhoeddi dau gyfle tendro - un i'r dechnoleg tracio asedau, ac un ar gyfer gwerthuso'r dechnoleg. Penodwyd Kinsetsu i osod technoleg tracio RFID, a phenodwyd RHCS i gynnal y gwerthusiad.
Cymeradwyo Prosiect Peilot
Yn dilyn y digwyddiad, cawsom gymeradwyaeth i redeg prosiect peilot i ddeall buddion technoleg tracio i gleifion, staff a'r ysbyty. Dewiswyd Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel yr ysbyty peilot.
Digwyddiad Tracio Asedau EIDC
Gofynnon i gyfarwyddwyr Gwybodeg y GIG beth oedd eu her fwyaf a'r ateb oedd ‘Tracio Adnoddau neu Asedau'. Fe wnaethom gynnal ein digwyddiad lansio ar Fawrth 6ed 2018 a dod â GIG a diwydiant ynghyd i ddeall yr her a nodi atebion posibl.