Lleoliad: Gellir cyfuno gweithio o bell a gweithio mewn lleoliadau allweddol yng Ngogledd Cymru, De-orllewin Cymru a’r Canolbarth, a De-ddwyrain Cymru
Yn atebol i’r: Pennaeth Partneriaethau
Cyflog: £42,836 y flwyddyn
Oriau: Amser llawn (37.5 awr yr wythnos)
Cyfnod: Cyfnod penodol am 12 mis
Sylwch ein bod yn recriwtio ar gyfer swyddi sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu’n ddaearyddol
- Rheolwr Ymgysylltu – Gogledd Cymru
- Rheolwr Ymgysylltu – De-orllewin Cymru a’r Canolbarth
- Rheolwr Ymgysylltu – De-ddwyrain Cymru
Gwybodaeth am y swyddi
Mae gennym ni gyfleoedd cyfnod penodol cyffrous i 3 x Rheolwr Ymgysylltu ymuno â'n tîm Partneriaethau yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru!
Gan weithio'n agos gyda'n Pennaeth Partneriaethau, byddwch yn arwain gweithgarwch ymgysylltu ar draws rhanbarth dynodedig yng Nghymru, gan feithrin perthnasoedd dibynadwy â rhanddeiliaid o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, y byd academaidd a'r trydydd sector. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi sefydliadau i lywio ecosystem arloesi Cymru, gan helpu i gysylltu syniadau, pobl a chyfleoedd sy'n gallu cyflymu'r broses o fabwysiadu arloesedd ym maes iechyd a gofal.
Byddwch hefyd yn cyfrannu at gyflawni ein cynllun ymgysylltu cenedlaethol, yn cynrychioli Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn digwyddiadau a fforymau, ac yn cydweithio ar draws timau mewnol i sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig sy'n sicrhau'r effaith fwyaf bosibl ar draws y system.
I weld holl fanylion y swydd, cliciwch ar y ddolen hon i ddarllen y swydd ddisgrifiad.
Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?
- Ymunwch â ni er mwyn bod yn aelod o dîm bach a chyfeillgar
- Diwylliant gwaith cynhwysol a hyblyg
- Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd
- Cefnogol o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl gwyliau hael – 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 9% gan y cyflogwr
Gwnewch gais nawr!
Anfonwch neges e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda ffurflen cyfle cyfartal wedi’i llenwi, eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen A4 o hyd) yn egluro sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd hon, a pham eich bod yn credu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.
Rhaid i’ch cais ein cyrraedd ni wedi ei gwblhau erbyn hanner dydd ar 1 Awst 2025.
Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar 12 & 13 Awst 2025.
Os hoffech chi gael sgwrs gychwynnol anffurfiol i ddysgu rhagor am y swydd hon, cysylltwch â Dr. Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau, drwy anfon e-bost at naomi.joyce@lshubwales.com