Hyd y prosiect: 15 mis

Partneriaid Cyflymu: Adwell Foods (Welsh Brew Tea) ac Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd

Nod: Datblygu te llesol wedi'i seilio ar fêl wedi'i gyfoethogi mewn polyffenolau a salisyladau naturiol

Adwell Foods Tea

Cefndir 

Mae Adwell Foods Limited yn gwmni teuluol a sefydlwyd ym 1993, a leolir ar Benrhyn Gŵyr yn Ne Cymru. Mae eu cynnyrch craidd, Paned Gymreig (Welsh Brew Tea), yn frand eiconig o Gymru, sy’n gyfuniad unigryw o de Affricanaidd ac Indiaidd i gyd-fynd â dŵr Cymru.

Am bron i 30 mlynedd mae Adwell wedi arallgyfeirio ac ehangu eu llinellau cynnyrch yn barhaus. Yn ddiweddar, fe wnaethant ymuno â Phrosiect Pharmabees arobryn Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddatblygu te gwyrdd newydd sy’n hybu iechyd ac yn cynnwys mêl, blodau gwyllt a mwyar duon Cymru. Bwriedir ei lansio yn hydref 2020. Mae eu llinell ddatblygu uchelgeisiol ac arloesol yn cynnwys te mêl wedi’u llunio i’r safon orau posib gyda buddion iechyd a brofwyd yn glinigol.

Trosolwg

Mae afiechydon cyffredin sy'n gysylltiedig ag oedran fel canser, clefyd cardiofasgwlaidd a diabetes math 2 yn fwy cyffredin yng ngwledydd y gorllewin o gymharu â De-ddwyrain Asia. Mae’r risgiau cymharol uwch ar gyfer y prif achosion hyn o afiechydon a marwolaethau wedi'u priodoli i wahaniaethau dietegol rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gan ffytofaethynnau bioactif sy'n digwydd yn naturiol (moleciwlau buddiol sy'n deillio o blanhigion) gan gynnwys polyffenolau a salisyladau, fuddion iechyd eang, gan leihau’r risgiau ar gyfer afiechydon sy'n fwy cyffredin â deiet y Gorllewin.

Yn ddamcaniaethol, bydd y defnydd cynyddol o bolyffenolau a salisyladau yn cyfrannu at lai o achosion o glefydau dynol prif gategori, yn enwedig clefyd cardiofasgwlaidd, canser, clefyd niwroddirywiol a heintiau bacteriol rheolaidd. Mae nifer o gydrannau dietegol fel aeron, cacao, mêl a the yn arbennig o gyfoethog mewn polyffenolau (PP) a salisyladau (SC), sy'n lleihau risg. Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil i wella’r dystiolaeth o'u buddion iechyd a datblygu bwydydd naturiol seiliedig ar dystiolaeth sy'n cynnwys lefelau uwch o gyfansoddion sy'n lleihau risg.

Cyfraniad Cyflymu

Mae Cyflymu yn cefnogi’r prosiect hwn fel estyniad o berthynas ymchwil ac arloesi barhaus Prifysgol Caerdydd gydag Adwell Foods. Mae'r prosiect yn ymgymryd â rhaglen ddwys o ymchwil a datblygu, gan adeiladu ar de mêl newydd Adwell sy'n hybu iechyd.

Bydd cymysgedd newydd gwell o de yn cael ei ddatblygu gyda chynnwys polyffenol a salisylad wedi'i optimeiddio'n ffisiolegol, gan alluogi defnyddwyr i ychwanegu at eu porthiant o gyfansoddion proffylactig. Yn sail i hyn bydd tystiolaeth o dreialon dilysu cyn-glinigol sy'n ymgorffori profion i fonitro newidiadau mewn lefelau PP a SC mewn gwirfoddolwyr iach. Bydd tystiolaeth o'r treial yn llywio dyluniad, datblygiad a gweithrediad treialon ymyrraeth glinigol ar raddfa lawn o de wedi’i optimeiddio mewn PP/SC ymysg cleifion sydd â risg uchel o batholegau targed.

Yn y pen draw, bydd y cynnyrch te newydd hwn yn ychwanegiad unigryw i'r farchnad fanwerthu, gan ddangos potensial cryf ar gyfer cynhyrchion bwyd proffylactig newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn sectorau arbenigol iechyd a gofal cymdeithasol

a photo of welsh brew products

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner