Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) i gefnogi’r ymateb i COVID-19 yw’r Gronfa Atebion Digidol (DSF). Connect Health oedd y prosiect cyntaf i gael ei redeg, cefnogi trawsnewid ffisiotherapi yn ddigidol. PhysioNow, yw’r offer hunan-asesu a brysbennu cyhyrysgerbydol digidol, a dreialwyd mewn dau Bwrdd Iechyd (Hywel Dda a Cwm Taf Morgannwg) yn ystod hydref 2020.

Muscular Skeletal Image

Trosolwg

Cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) megis arthritis a phoen cefn yw’r salwch y mae pobl yn cwyno fwyaf amdanynt yng Nghymru, gan effeithio ar 887,000 o bobl. Maent yn cyflwyno heriau mawr i’r systemau gofal iechyd: Symptomau MSK sydd i gyfrif am 20% o holl apwyntiadau meddygon teulu a 7.9% o dderbyniadau i ysbytai.

Mae pandemig COVID-19 wedi ei gwneud yn anos i bobl gael mynediad i ofal yn y system, ac mae hynny wedi arwain at oedi mewn atgyfeiriadau arferol, ac wedi achosi oedi cyn gall pobl gael gafael ar wasanaethau MSK. Ochr yn ochr â ffyrdd o fyw fwyfwy llonydd a phoblogaeth sy’n heneiddio, mae gofyn cael atebion newydd i’r heriau hyn i helpu i gefnogi anghenion gofal iechyd sy’n esblygu.

Fe wnaeth Connect Health gyflwyno ei ateb brysbennu digidol PhysioNow i’r DSF i roi sylw i anghenion esblygol ffisiotherapi. Mae’r DSF yn rhaglen gwerth £150,000 a gynhelir gan Lywodraeth Cymru, a gefnogir gan EIDC, ar gyfer gweithredu a phrofi atebion digidol yn gyflym er mwyn pwyso a mesur ffyrdd amgen o helpu i fodloni anghenion ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn dilyn COVID-19. Peilot PhysioNow yw’r cyntaf o bum prosiect i gael ei brofi a’i werthuso ym maes gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Offeryn cymorth sgwrsfot dan arweiniad clinigol yw PhysioNow ac mae’n darparu gwasanaeth brysbennu ystwyth, o bell ar gyfer cyflyrau MSK – gan gyfeirio cleifion yn gyflym at y llwybr gofal mwyaf priodol (111, ffisiotherapi brys, neu ffisiotherapi arferol). Gall defnyddwyr hunan-gyfeirio ac nid ydynt yn rhwym wrth lwybrau cyfeirio arferol gwasanaethau nac oriau agor.

Amcan 

Nod PhysioNow yw ysgafnu’r baich ar wasanaethau iechyd drwy gyfyngu ar bwyntiau cyswllt diangen, gan gasglu rhagor o wybodaeth oddi wrth gleifion ymlaen llaw a helpu i wneud y gorau o’r capasiti staff. Mae hefyd yn helpu cleifion i gynnal eu hiechyd eu hunain yn well, ac mae hynny’n cyd-fynd â nodau Llywodraeth Cymru, fel y gwelir yn ‘Cymru iachach’.

Ymysg y mesurau llwyddiant ar gyfer y peilot hwn yr oedd casglu mesurau profiad a adroddwyd gan gleifion (PREMs) ar gyfer rhai a ddefnyddiodd PhysioNow. Roedd hyn yn ychwanegol at gasglu adborth gan glinigwyr i ganfod rhwyddineb a phriodoldeb ddefnyddio’r offeryn, ynghyd â’r effaith ar dimau clinigol.

Roedd y prosiect hefyd yn gyfle i ddysgu am faint o werth a allai fod i PhysioNow. Un o amcanion y DSF yw nodi’r manteision gwirioneddol, a chanfod pa dechnolegau sy’n gweithio, ym mhle a sut. Cafodd PhysioNow hefyd ei werthuso o ran y costau yr oedd yn eu harbed a’r gallu i reoli capasiti’n well yn y gwasanaeth ffisiotherapi.

Cydweithredu

Fe wnaeth Connect Health ddarparu’r ateb, gan weithio â rhanddeiliaid i gyflawni ac asesu’r effaith yng Nghymru. Fe wnaethant hefyd ddarparu cymorth technegol i gleifion a phartneriaid cyflenwi.

Darparodd Llywodraeth Cymru grant drwy’r DSF i redeg y prosiect. Cydlynodd EIDC y prosiect, gan gyflwyno Connect Health hefyd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gynt), a fu’n cynghori ar y posibilrwydd o integreiddio’r feddalwedd yn systemau’r GIG.

Roedd gan bron pob Bwrdd Iechyd ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar PhysioNow, a dewiswyd Byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda i fod yn safleoedd peilot. Bu’r timau ffisiotherapi yn y Byrddau Iechyd yn gweithio’n agos â Connect Health i gytuno ar brosesau llywodraethu gwybodaeth priodol, addasu’r prosesau cyfredol ar gyfer cyfeirio a brysbennu, esbonio’r peilot wrth Glystyrau meddygon teulu, a monitro cydymffurfiaeth a chywirdeb PhysioNow. Cymerodd hyn lawer o amser ac ymdrech, ond roedd y timau yn y ddau Fwrdd Iechyd yn awyddus i brofi sut gallai technoleg wella’r gwasanaeth y gallent ei gynnig i gleifion.

Heriau

Mae safonau Llywodraethu Gwybodaeth (IG) yng Nghymru yn sicrhau bod data cleifion yn cael ei drin a’i brosesu’n briodol. Un o’r gwersi cynnar o’r peilot oedd y dylid dechrau gweithio â’r timau IG yn y Byrddau Iechyd cyn gynted â phosibl.

Roedd natur fyrdymor y peilot yn ei gwneud yn anodd gwireddu manteision a gwerth llawn yr ateb yn yr amser a oedd ar gael. Dechreuodd y peilot yn hwyrach na’r bwriad oherwydd bod gwasanaethau ffisiotherapi a phrosesau hunan-gyfeirio wedi’u hatal yn ystod rhan o’r haf oherwydd pwysau COVID-19.

Roedd gofyn i dimau clinigol fonitro’r penderfyniadau brysbennu a wnaed gan PhysioNow fel rhan o’r cyfnod mabwysiadu cychwynnol er mwyn meithrin ymddiriedaeth ac ymgyfarwyddo â’r prosesau. Yn dilyn y cyfnod cychwynnol hwn o fonitro, gallai timau wedyn ddefnyddio penderfyniadau brysbennu annibynnol yr offeryn.

Canlyniadau

Fe wnaeth 1029 o gleifion gwblhau ymgynghoriadau fel rhan o beilot PhysioNow, a darparodd 22% o’r rheini adborth dienw. Roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben, gydag 81% o’r ymatebwyr yn dweud y byddent yn argymell PhysioNow i’w ffrindiau a’u teulu.

Dangosodd PhysioNow hefyd ei fod yn hygyrch, gydag 85% o’r ymatebwyr yn dweud bod PhysioNow yn hawdd ei gwblhau a theimlai 89% eu bod yn gallu troi at yr offeryn ar unrhyw adeg. Roedd cynrychiolaeth dda o oedrannau a demograffeg codau post ymysg y defnyddwyr. Cyfeiriai’r cleifion hefyd at fanteision a oedd yn cynnwys mynediad cyflym, llai o gostau teithio a bod y gwasanaeth yn fwy hwylus yn gyffredinol.

Cafwyd teimlad pendant bod gan yr offeryn, yn enwedig â chynnwys yr elfen hunan-reoli, y potensial i ychwanegu gwerth sylweddol i’r llwybr MSK. Fodd bynnag, oherwydd natur fyrdymor y peilot, ni fu’n bosibl gwireddu’r rhain yn llwyr, heb wneud astudiaeth bellach.

Amlygodd y prosiect bwysigrwydd gweithio’n agos â’r tîm rheoli ffisiotherapi a’r arweinyddion clinigol er mwyn deall unrhyw heriau a gafwyd yn lleol. Mae’n holl bwysig bod timau clinigol yn cael eu cynnwys o ddechrau’r broses weithredu er mwyn cael eu hymrwymiad, yn ogystal â’u syniadau a’u hadborth ar sut gellid defnyddio cynhyrchion a thechnoleg newydd orau yn eu hamgylchedd gweithio dydd i ddydd. 

Meddai John Davies, Uwch Reolwr Ffisiotherapi MSK / Gwasanaethau CMAT, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Cafodd y prosiect nifer o ganlyniadau cadarnhaol a fydd yn galluogi cynlluniau newid digidol ehangach i’r dyfodol. Bu’n gyfle gwych i feithrin rhwydweithiau proffesiynol rhwng Byrddau Iechyd, EIDC a’r diwydiant. Mae hyn yn ei dro wedi ehangu ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n ofynnol i ddatblygu a sefydlu datblygiadau technoleg ddigidol arloesol mewn ymarfer clinigol - gan gynnwys ei le yn y farchnad gofal iechyd ehangach a sut all gefnogi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.”

Meddai Gary Howe, Uwch Reolwr Gweddnewid Gwasanaethau Connect Health:

Roeddem yn ddiolchgar iawn am gael cyfle i gydweithredu â chydweithwyr yng Nghymru i dreialu PhysioNow fel rhan o’r ymateb i COVID-19. Fe wnaeth y bartneriaeth ardderchog a’r perthnasoedd gweithio cadarnhaol gydag ein cydweithwyr yn Hywel Dda a Chwm Taf Morgannwg ein galluogi i gyflwyno’r peilot hwn yn llwyddiannus. Byddem wrth ein bodd yn dal i weithio â’r cydweithwyr hyn a rhai eraill ar draws Cymru i ymgorffori PhysioNow mewn llwybrau lleol i’r dyfodol.”

Drwy drafod â’r timau clinigol, gwelwyd y gallai nodweddion ychwanegol yn PhysioNow, a fyddai’n cynnig cyngor hunan-reoli i gleifion â chyflyrau isel eu risg, roi’r gwerth gorau i adrannau ffisiotherapi i frysbennu a rheoli’r galw am y gwasanaeth. Byddai darparu i gleifion fynediad i gyngor hunan-reoli yn fuan yn y broses yn hwyluso ymyrraeth gynnar i grwpiau priodol yn y boblogaeth MSK. Roedd y rhan hon o’r offeryn yn dal yn y cam datblygu ac nid oedd eto’n barod i’w chyflwyno ar gyfer y peilot.

Darparodd y prosiect hwn olwg ar sut allai atebion digidol helpu i reoli atgyfeiriadau i wasanaethau MSK gofal eilaidd. Cadarnhaodd fod derbynioldeb a’r profiad ymysg cleifion yn gadarnhaol. Mae’r canlyniadau a’r gwersi allweddol o’r peilot wedi rhoi rhywbeth i wasanaethau ffisiotherapi ar draws Cymru gnoi cil drosto a bydd yn helpu i siapio dyluniad gwasanaethau i’r dyfodol.  

Meddai Abi Phillips, Pennaeth Arloesi – Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru:

Mae PhysioNow yn esiampl wych o sut gallwn alluogi cleifion i gael gafael ar wasanaethau o ddyfais pan maent angen a lle maent angen. Mae COVID-19 wedi ein gorfodi ni oll i feddwl yn wahanol, ac mae’r prosiect hwn wedi dangos cymaint o effaith y gellir ei chael mewn amser byr.” 

Edrychwch ar linell amser lawn y prosiecthttps://lshubwales.com/cy/projects/connect-health-peilot-physionow