Bydd prosiect clinigol newydd, arloesol i archwilio effaith defnyddio technoleg biodrydanol ar gyfer rheoli poen cleifion sy’n aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd, yn cael ei lansio y mis Hydref hwn.

New service evaluation to examine effect of NuroKor bioelectric technology on osteoarthritis patients waiting for knee replacement surgery

Mae’r prosiect chwe mis yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD), y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), y Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (TriTech) a’r arloeswyr technoleg biodrydanol NuroKor BioElectronics.

Mae’n cael ei gefnogi gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy raglen Cyflymu, sef rhaglen gwerth £24 miliwn sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn adolygu effeithiolrwydd a manteision economaidd iechyd posibl therapi electronig fferyllol NuroKor o ran rheoli cleifion sy’n dioddef osteoarthritis y pen-glin.

Mae’r dechnoleg mae modd ei gwisgo yn ysgogi’r nerfau drwy ddull biodrydanol i leddfu poen cleifion a’u helpu i wella ac adsefydlu.

Ers y pandemig, mae mwy nag erioed ar restrau aros y GIG am lawdriniaethau, gyda rhai cleifion yn aros am fwy na dwy flynedd. Ar hyn o bryd, dim ond opsiynau rheoli poen traddodiadol, fel meddyginiaeth a ffisiotherapi sydd gan bobl sy’n aros am ben-glin newydd a llawdriniaethau eraill.  Gallai dyfais mediliev Rx NuroKor gyflwyno opsiwn rheoli poen amgen ac effeithiol i wella ansawdd bywyd pobl sy’n aros am driniaeth feddygol.

Fel rhan o’r prosiect, bydd ATiC yn gweithio gyda NuroKor i ganfod a diffinio anghenion a phrofiadau pobl sy’n byw gydag osteoarthritis sy’n aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd. Bydd profiad defnyddwyr a defnyddioldeb y mediliev Rx presennol yn cael ei werthuso er mwyn i NuroKor gael gwybodaeth ynghylch a ellir ei ddefnyddio i ddatblygu technolegau electrotherapi newydd.

Bydd TriTech yn canolbwyntio ar asesu manteision posibl y dechnoleg bresennol ac unrhyw gynnyrch bioelectroneg sy’n dod i’r amlwg i gleifion a’r gwasanaeth iechyd, ar gyfer hunanreoli poen cronig, yn ogystal â’r effaith ar ansawdd bywyd, symudedd ac iechyd meddwl.

 Meddai Rick Rowan, Prif Weithredwr a Sylfaenydd NuroKor BioElectronics:

“Mae lansio’r cydweithrediad hwn yn ddigwyddiad hynod gyffrous ac yn cynnig dewis amgen i bobl sy’n wynebu amseroedd aros hirach am lawdriniaeth. Mae’n dod â gweithwyr proffesiynol, peirianwyr, gwyddonwyr ac ymchwilwyr meddygol at ei gilydd. Mae’r astudiaeth yn brosiect allweddol i NuroKor, wrth i ni barhau i ddangos sut mae niwromodwleiddio anymwthiol yn cynnig ateb i bobl sy’n dioddef poen a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ar yr un pryd â gwella effeithlonrwydd ac arbedion ar gyfer systemau gofal iechyd dan bwysau.”

Dywedodd Dr Sean Jenkins, Athro Cyswllt a Phrif Gymrawd Arloesi ATiC, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r prosiect newydd cyffrous hwn yn enghraifft ragorol o gydweithio teiran rhwng y sectorau menter breifat, prifysgolion ac iechyd, gyda chefnogaeth y rhaglen Cyflymu a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  Rydyn ni’n arbennig o falch o gydweithio â Sefydliad TriTech newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwasanaeth byd go iawn a gwerthuso defnyddioldeb.

Bydd canlyniadau disgwyliedig y gwerthusiad hwn yn cael effaith sylweddol ar drin poen cronig drwy helpu pobl i hunanreoli symptomau gartref, gan arwain at fanteision iechyd economaidd hirdymor i’r GIG.”

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth TriTech a Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae gennym bartneriaeth arbennig gydag ATiC a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio â NuroKor er mwyn archwilio effaith y dechnoleg hon ar ein cleifion osteoarthritis sy’n aros am lawdriniaeth i gael pen-glin newydd.”

Dywedodd Gareth Healey, Pennaeth Cyflymu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn fod rhaglen Cyflymu yn cefnogi NuroKor drwy helpu i feithrin cydweithio ar draws sectorau. Mae prosiectau aml-bartner fel hwn yn allweddol ar gyfer ymchwilio i’r manteision posibl o ran iechyd a lles i gleifion a’r manteision economaidd i’n systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael partneriaeth barhaus gyda NuroKor, ATiC, a TriTech wrth i ni edrych ar gyfleoedd cydweithredol yn y dyfodol.”

Mae NuroKor wedi agor canolfan ymchwil a datblygu yn Tramshed Tech, yng Nghaerdydd – canolfan ar gyfer busnesau newydd, busnesau bach a mentrau mawr yn y byd technoleg – fel rhan o’r rhaglen