Mae busnesau ledled Cymru wedi bod yn addasu ac yn arloesi ar raddfa a chyflymder na welwyd eu tebyg o'r blaen i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19 a helpu i drin y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y firws.

O ail-beiriannu llinellau cynhyrchu ac ailstrwythuro cadwyni cyflenwi dros nos, mae'r busnesau hyn wedi gweithio'n ddiflino i gynnig y cyfarpar a'r gwasanaethau y mae eu hangen ar frys i GIG Cymru.

Fodd bynnag, nid dim ond achos o ymateb yn gyflym gan unigolion i fodloni galwadau newydd yw eu llwyddiannau. Mae cydweithio rhwng diwydiant a GIG Cymru wedi bod yn hanfodol i'w gwneud yn bosibl.

Woman in face visor with box

Gwneud cydweithio yn bosibl

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i reoli holl ymholiadau'r diwydiant i gefnogi GIG Cymru yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn.

Ein rôl ni yw gweithredu fel cyfrwng rhwng diwydiant a'r gwasanaeth iechyd, gan annog a chynorthwyo sefydliadau i gynnig cymorth.

Gyda chysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiant a'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn deall anghenion gwasanaethau rheng flaen yn ogystal â'r rôl y gall busnesau ei chwarae wrth fynd i'r afael a Covid-19.

Rydym yn cydweithio'n agos â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol - sefydliadau sy'n gyfrifol am gaffael cynhyrchion allweddol-i brosesu pob ymholiad cychwynnol ac i wneud gwaith diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod y cwmnïau mwyaf perthnasol a phriodol yn cael eu trin.

Nodi cyfleoedd

Gan fod rheidrwydd ar gynhyrchion gofal iechyd i gydymffurfio â safonau diogelwch caeth, y gwir amdani yw nad yw pob cynnig yn addas i gael ei ddatblygu.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn awyddus i glywed gan unrhyw fusnes a allai fod o gymorth ac arweiniad i'r rhai sy'n dymuno gwneud cynigion ar gael drwy ein tudalennau cwestiynau cyffredin.

Wrth i gyfyngiadau gychwyn ar ddiwedd mis Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad rhithwir mawr ar draws y diwydiant a welodd dros 150 o sefydliadau yn dod at ei gilydd i drafod ffyrdd o fynd i'r afael â Covid-19. Ers hynny, mae cannoedd o fusnesau, ar draws amryw o sectorau, wedi dod ymlaen.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau bywyd Cymru:

"Ein cylch gwaith yw hwyluso cydweithio rhwng y diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'n cydweithwyr ym maes caffael ac yn cymryd ymagwedd Cymru gyfan wrth ymateb i gynigion o gymorth gan ddiwydiant wrth i ni wynebu gofynion coronafeirws a'r pwysau ar ein systemau iechyd a gofal."

Cynyddu Cynhyrchiant

Dros y misoedd diwethaf, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi gweithio'n agos gyda chyflenwyr o Gymru i gynyddu eu cynhyrchiant.

Yn arbennig, rydym wedi cefnogi distyllwyr Cymru i newid eu prosesau cynhyrchu yn gyflym i greu diheintydd dwylo, gan sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y deunyddiau a'r arbenigedd sydd eu hangen i gynhyrchu a dosbarthu'r cynhyrchion hyn yn ddiogel.

Mae hyn wedi arwain at gynhyrchion allweddol yn cael eu rhoi ar lwybr carlam o fewn GIG Cymru er mwyn eu cael i'r mannau lle mae eu hangen ar frys.

Gwneud gwahaniaeth

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi prosesu miloedd o ymholiadau gan fusnesau sy'n cynnig cymorth gan gynnwys cwmni o Gaerdydd a Llanelli, BCB International, sydd ag hanes o 160 mlynedd o greu cynhyrchion achub bywyd sy'n dyddio'n ôl i Ryfel y Crimea.

Yn dilyn ei gyflwyniad cychwynnol, mae BCB wedi llwyddo i wneud cynnyrch diheintio alcohol cryf, PPE ac offer meddygol ymatebwyr cyntaf ar gael i GIG Cymru.

Mae cefnogaeth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru hefyd wedi helpu cwmni o Gaerffili,Transcend Packaging,  sy'n gweithgynhyrchu gwellt papur ar gyfer McDonald's, i gael ei ardystio i gynhyrchu PPE yn ystod Covid-19.

Yn yr un modd, rydym wedi helpu cwmnïau fel cwmni o Sir Ddinbych, Workplace-Worksafe,i drosoli eu cysylltiadau presennol gyda gweithgynhyrchwyr yn y DU ac yn rhyngwladol i brynu a chyflenwi cynhyrchion PPE ardystiedig sydd eu hangen ac sydd mewn galw yn fyd-eang. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus cenedlaethol, mae busnesau mewn amrywiaeth o sectorau yn parhau i chwarae eu rhan i gefnogi ein GIG ac achub bywydau yn y pen draw.

"Mae gennym rai o'r busnesau gorau yn y byd yma yng Nghymru, nid yn unig ar gyfer y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigiant ond ar gyfer y moeseg maent yn arddangos bob dydd. Nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy amlwg nag yn awr.

"Hoffwn hefyd ddiolch i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a'i staff am y rôl hollbwysig y maent wedi'i chwarae wrth gefnogi ein hymdrechion yn erbyn y firws hwn. Drwy ddod ag arloesedd a chydweithredu ynghyd ar frys, maent wedi helpu i sicrhau bod ein hymateb yn effeithlon ac yn effeithiol. "

Dylai busnesau sydd am gyflwyno cynigion o gymorth yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws wneud hynny drwy ein tudalennau Covid-19 pwrpasol.