Partneriaid: Mangar International Ltd, yn masnachu dan yr enw Mangar Health Ltd a Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) .

Amcan y Prosiect:  Datblygu amrywiaeth o gynhyrchion codi cleifion marchnad-benodol newydd sy’n darparu gwell ddiogelwch a defnyddioldeb i gleifion a gofalwyr.

Heatmap of a patient

Trosolwg o’r Prosiect

Mangar Health, sydd wedi’i leoli yn Llanandras (Presteigne), yw arweinydd y DU yn y farchnad cynllunio, cynhyrchu a chyflenwi offer symud, trafod a golchi chwyddadwy unigryw, a ddefnyddir y rhain gan Wasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol, cartrefi gofal, ysbytai a gwasanaethau argyfwng. 

Mae portffolio cynnyrch y cwmni yn canolbwyntio ar godi a golchi cleifion yn ddiogel ac ar ddyfeisiau gwely cynorthwyol sy’n diogelu defnyddwyr a chleifion rhag anafiadau, gan alluogi pobl sydd â symudedd cyfyngedig i fyw yn annibynnol. 

Wrth i effaith poblogaeth sy’n heneiddio waethygu, mae codi cleifion yn ddiogel yn elfen gofal cychwynnol ac eilaidd  fwyfwy pwysig.  Y canlyniad yw marchnad genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cynhyrchion arloesol yn y maes, sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n mynd i’r afael  â diogelwch y claf a hefyd y gofalydd.    

Mae rheoliadau codi a chario, a thechnegau codi a chario cywir, yn benodol ar gyfer codi cleifion sydd wedi cwympo,  yn her ddyddiol i’r sawl sy’n gweithio mewn amgylchedd gofal iechyd. Mae natur ailadroddol codi cleifion yn achosi niwed cyhyrysgerbydol a chyfraddau uchel o salwch cysylltiedig â gwaith ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, sydd yn broblem fyd-eang ac yn costio $20 biliwn y flwyddyn i sefydliadau’r Unol Daleithiau yn unig.   

Yn y DU, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn amcangyfrif bod 1.5 miliwn o ddyddiau yn cael eu colli’n flynyddol oherwydd anafiadau cyhyrysgerbydol.  

Mae’r debygoliaeth o weithiwr gofal iechyd yn cael ei anafu yn lleihau fesul hyd at  41%  pan fydd dyfais godi ar gael ar ei gyfer.

Ymglymiad Accelerate

Mae Accelerate yn cefnogi cyflawniad y prosiect hwn drwy ddarparu yn ATiC arbenigedd academaidd a chyfleusterau o’r radd flaenaf.

Gwnaeth Mangar Health fynd at ATiC gydag amrywiaeth o gyfleoedd masnachol a heriau Datblygu, Ymchwil ac Arloesi cysylltiedig parthed meysydd cynnyrch codi a golchi cleifion yn ddiogel. Chwiliodd y cwmni am gymorth i ymchwilio i a datblygu datrysiadau cynnyrch arloesol sy’n gwella diogelwch y claf a’r gofalydd ac yn cyfoethogi defnyddioldeb y cynnyrch. Yn benodol, roedd y cwmni am ddatblygu System Aer ar gyfer Trosglwyddo Cleifion, i’w codi a’u trosglwyddo o fewn ysbytai.    

Cyfrannodd ATiC arbenigedd ymchwil ym maes profiad defnyddwyr (UX) a defnyddioldeb ar gyfer profi’r cynnyrch a gwerthuso’r prosiect, gan gynnwys ei gyfleusterau olrhain symudiadau dynol a dadansoddi biomecanegol, er mwyn gwerthuso’r system brototeip a ddatblygwyd gan Mangar Health. 

Aeth y tîm ATiC gyda’r cwmni ar gyfres o ymweliadau ag ysbytai ledled y DU er mwyn helpu gyda gwerthuso’r prototeipiau ar y safle. Gwnaeth y tîm ymgymryd â chyfres o werthusiadau defnyddioldeb gan ymgorffori systemau synwyryddion olrhain symudiadau ac EMG er mwyn profi effeithiolrwydd ergonomig a diogelwch y system newydd o gymharu â chynhyrchion cystadleuwyr.

Canlyniadau disgwyliedig

  • System Aer newydd ar gyfer Trosglwyddo Cleifion, i’w codi a’u trosglwyddo o fewn ysbytai.   
  • Mae Mangar Health wedi nodi potensial marchnadol ym marchnadoedd y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau am ei gynhyrchion Staciau Aer a Sleidiau Aer, a bod marchnadoedd Japan a’r Dwyrain Pell yn strategol bwysig o ran ei gynnyrch Clustog Codi Camel, i gychwyn, gan ehangu wedyn i gynnwys amrywiaethau o gynhyrchion eraill yn y dyfodol. Gwnaiff y cydweithrediad ag ATiC helpu busnes Mangar Health yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol i dyfu.

Effaith

  • Mae’r cydweithrediad ymchwil hwn wedi creu PPS (cynnyrch, proses, gwasanaethu) sy’n newydd i’r cwmni; PPS sy’n newydd i’r farchnad; a chafodd swyddi newydd eu creu.
  • Gwnaiff systemau Staciau Aer a Sleidiau Aer Mangar Health ddarparu datrysiad sy’n fwy cost-effeithiol a sefydlog, ac sydd hefyd yn fwy diogel ar gyfer GIG y DU na’r datrysiad presennol. 
  • Bydd y system fain Camel newydd, a gynlluniwyd i ddiogelu gweithwyr gofal wrth iddynt  godi cleifion sydd wedi cwympo, alluogi codi cleifion mewn cartrefi lle nad oes llawer o le.   
  • Bydd defnyddio’r cynhyrchion yn y cartref yn lleihau’r effaith ar y sawl sy’n agos at ac yn gofalu am y claf, gan leihau anafiadau i’r gofalydd a diogelu ei iechyd hirdymor.
  • Byddai gwerthiannau cynyddol yn gwella’r budd economaidd i Gymru, gan arwain at swyddi cynhyrchu ychwanegol newydd yng nghanolfan gynhyrchu Mangar Health yn Llanandras, sef swyddi Datblygu ac Ymchwil, yn ogystal â swyddi cynhyrchu.

 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner