Mae cwmni o Gaerffili wedi newid cynhyrchu yn ei ffatri i greu miliynau o amddiffynwyr y wyneb cynaliadwy a fydd yn cael eu defnyddio'n fyd-eang gan staff rheng flaen yn ogystal â chefnogi gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gweithle.

Lorenzo Angelucci, Managing Director at Transcend Packaging

Mae Transcend Packaging, sef arbenigwr pecynnu cynaliadwy a'r cwmni cyntaf yn Ewrop i gynhyrchu gwellt papur ar gyfer bwytai gwasanaeth cyflym enfawr, wedi trawsnewid gweithrediadau yn eu sylfaen weithgynhyrchu yn Ystrad Mynach i greu amddiffynwyr y wyneb. Wedi'u gwneud o gardfwrdd wedi'u hatgyfnerthu a deunyddiau ailgylchadwy, mae'r gwelwyr rhad wedi'u cynllunio ar gyfer defnydd unigol ac i'w hailgylchu.

Gyda chymorth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Transcend Packaging wedi gallu sicrhau bod eu cynnyrch yn bodloni'r holl safonau sy'n ofynnol i'w defnyddio gan GIG Cymru, gweithwyr rheng flaen a gweithwyr allweddol.

Effaith rhyngwladol

Mae bron i 3,000,000 o'r amddiffynwyr wedi cael eu cynhyrchu'n barod, gyda'r cwmni wedi derbyn archebion o bob cwr o'r byd. Yn ogystal â chyflenwi'r cynnyrch i wahanol leoliadau ar draws y DU, mae Transcend Packaging wedi gweld eu hamddiffynwyr yn cael eu dosbarthu ar draws Ewrop ac mae bellach mewn trafodaethau i gyflenwi Siapan a'r Unol Daleithiau.

Newidiodd y cwmni eu llinellau cynhyrchu yn dilyn digwyddiad cenedlaethol ar-lein, a gynhaliwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a archwiliodd sut i weithgynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) yn gywir er mwyn cyflenwi GIG Cymru, gan esbonio'r gofynion ardystio a'r prosesau caffael cysylltiedig.

Ymateb Cymru i Covid-19

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i reoli pob ymholiad cychwynnol a chynnig cymorth gan fusnesau ar ran GIG Cymru, wedi gweithio'n agos gyda Transcend Packaging i'w helpu i addasu eu llinellau cynhyrchu a chael ei ardystio i gyflenwi PPE categori II.

Hyd yn hyn, mae dros 1,500,000 o amddiffynwyr y wyneb wedi dod yn uniongyrchol i naill ai GIG Cymru neu adran iechyd a gofal cymdeithasol y DU i gefnogi staff ar y rheng flaen. Mae'r cwmni hefyd yn cyflenwi amddiffynwyr i gynghorau, cartrefi gofal, manwerthwyr a ffatrïoedd ledled y wlad.

Oherwydd natur ailgylchadwy'r amddiffynwyr, yn ogystal â'r gost gymharol isel a'r rhwyddineb i'w cynhyrchu o'u cymharu â'r dewisiadau eraill, gallai'r cynhyrchion hefyd chwarae rhan allweddol i helpu i ddychwelyd i'r gwaith a'r 'normal newydd'.

Wrth i fusnesau a chyfleusterau ailagor ac wrth i fesurau cloi i lawr gael eu lleddfu, gallai'r amddiffynwyr gael amrywiaeth o gymwysiadau yn cynnwys cael eu defnyddio gan weithwyr mewn lleoliadau swyddfa, cleifion sy'n mynychu cymorthfeydd meddygon, staff mewn rolau sy'n wynebu cwsmeriaid fel banciau a manwerthwyr, yn ogystal â chan unigolion sy'n ymweld â chyfeillion a theulu, yn enwedig mewn cartrefi gofal.

Dywedodd Lorenzo Angelucci, Rheolwr Gyfarwyddwr Transcend Packaging:

"Mae Transcend Packaging yn rhan falch o gymuned fusnes Cymru a phan ddechreuodd achos Covid-19 gwelsom yr angen hanfodol am gyfarpar amddiffynnol personol ac roeddem am wneud yr hyn a allem i helpu.

"Sylweddolon ni'n gyflym y gallen ni addasu ein hoffer argraffu digidol i greu amddiffynwyr wyneb a gyda chymorth ac arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, roedden ni'n gallu perfformio'r dylunio a chynhyrchu cynhyrchion oedd wedi'u hardystio'n llawn ac yn bodloni'r safonau cywir.

"Pan ddaeth hi i ddylunio'r amddiffynwyr, meddyliwyd yn ofalus am anghenion heddiw a rhai'r dyfodol rhagweladwy. Mae gwasanaethau rheng flaen yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ond yn ystod y misoedd i ddod, unwaith y codir y cyfyngiadau a phan fydd busnesau'n ailafael yn eu gwaith, bydd angen amddiffyn pobl eraill. Roeddem am greu cynnyrch y gellid ei ddefnyddio ar draws y boblogaeth.

"Mae ein amddiffynwyr y wyneb yn ddewis effeithiol, rhad ac am ddim, a farciwyd i eitemau PPE eraill ac yn darparu lefel ychwanegol o ddiogelwch sy'n addas ar gyfer lleoliadau meddygol, gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith a'r cyhoedd yn gyffredinol wrth iddynt fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd a gweld anwyliaid."

Sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl, ac mae'n arbenigo mewn pecynnu cynaliadwy ac mae wedi ymrwymo i leihau gwastraff a chynnig dewis gwirioneddol yn lle plastig untro ar sail fasnachol. Mae cynnyrch y cwmni, sy'n cynnwys gwellt papur, cartonau a chwpanau, i'w gweld o fewn y gadwyn cyflenwi bwyd yn ogystal ag yn y bwytai gwasanaethau cyflym ar draws Ewrop gan gynnwys Starbucks a McDonald's.

Mae Transcend Packaging, sy'n cyflogi ychydig o dan 200 o bobl, ar hyn o bryd yn cynhyrchu cannoedd o filoedd o amddiffynwyr y wyneb yr wythnos ond mae ganddo'r gallu i roi hwb i hyn i bron i 2,000,000 os oes angen. Tra bod y cwmni yn parhau i weithgynhyrchu cynnyrch ar gyfer y diwydiant bwyty gwasanaeth cyflym yn ystod yr argyfwng – tra’n cynnal gweithdrefnau ymbellhau cymdeithasol a diogelwch llym - mae gorchmynion o fewn y sector wedi lleihau. Mae ychwanegu at y gweithgaredd hwn gyda chreu amddiffynwyr y wyneb wedi sicrhau bod Transcend Packaging wedi gallu cadw'r rhan fwyaf o'i staff parhaol ar sail amser llawn yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae meddwl cyflym a dull arloesol o ddatblygu PPE ar gyfer yr ymdrech genedlaethol yn enghraifft o'r ymrwymiad gwych, y creadigrwydd a'r gwaith caled sydd gennym yma yng Nghymru. Fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer y diwydiant, rydym wedi bod yn gweithio gyda busnesau i helpu GIG Cymru i gael gafael ar yr offer a'r adnoddau hanfodol sydd eu hangen.

"Mae ein gwaith gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi ein galluogi i sicrhau cynhyrchion diogel ac ardystiedig a fydd yn chwarae rhan hanfodol o ran diogelu cleifion a'r rhai sy'n gweithio yn rheng flaen ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol."

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters:

"Mae Transcend Packaging yn fusnes pwysig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac rwy'n cymeradwyo'r ffordd y maent wedi newid eu ffordd o weithio i ddatblygu cynnyrch hanfodol, sy'n helpu i amddiffyn llawer o bobl.

"Mae'r cwmni'n rhan o nifer trawiadol o fusnesau sy’n gwneud y cyfarpar sydd ei angen arnom i helpu i guro coronafeirws, ac rwyf hefyd yn diolch iddynt am bopeth y maent yn ei wneud wrth wynebu'r her a ddaw yn sgil y pandemig hwn.

"Hoffwn hefyd ddiolch i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am y rôl hanfodol y maent yn chwarae o ran cefnogi cwmnïau ledled Cymru.

"Mae'r gwaith pwysig rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ei wneud gyda chwmnïau i gefnogi ein hymdrech o amgylch PPE yn dangos yn wirioneddol yr hyn sy'n bosibl gyda brys a chydweithio."

Dylai unrhyw fusnesau sydd am gyflwyno cynigion o gymorth yn y frwydr yn erbyn coronafeirws wneud hynny drwy borthol arloesi ar-lein Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.