Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a GSK yn ymgymryd â phrosiect cydweithio, gyda’r nod o ddarparu gofal asthma a COPD gwell i gleifion nad ydynt wedi cael eu gweld mewn practis cyffredinol yn y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn galw am gydbwysedd o ran cyfraniadau ynghyd â chyfuno sgiliau, profiad ac adnoddau.

Mae aelodaeth y prosiect yn cynnwys Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, arloesi anadlol Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, a Sefydliad Prydeinig yr ysgyfaint.

GSK title image - microorganisms

Nod y prosiect yw cefnogi'r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Estynedig Cenedlaethol Adolygu Anadlyddion Fferylliaeth Gymunedol GIG Cymru drwy gynnal mwy o adolygiadau, addysgu HCP a mesur effaith y Fferyllfeydd Cymunedol sy'n darparu gofal i'r grŵp hwn o gleifion COPD ac Asthma, gan ddefnyddio'r Prawf Rheoli Asthma neu'r Adnodd Asesu COPD a holiadur profiad claf. Mae'r prosiect cydweithio yn cynnwys tri Bwrdd Iechyd, y British Lung Foundation a Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol Cymru, Arloesedd Anadlol Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y Primary Care Respiratory Training Centre a GSK.       

Bydd y prosiect ar waith o 13 Ionawr 2020 tan ddiwedd Ionawr 2021                                                      

Manteision Arfaethedig

I'r claf:

  • Byddai mwy o gleifion yn cael Adolygiad o Anadlyddion Asthma/COPD wedi'i seilio ar asesiad meintioledig wedi’i ddilysu o’u rheolaeth Asthma neu o effaith COPD (e.e ACT/CAT), gan gynnwys gofal wedi’i bersonoli a hyfforddiant ar sut i ddefnyddio eu hanadlydd yn effeithiol.  Cynhelir eu hadolygiad o anadlydd mewn lleoliad mwy hygyrch, o bosib, na’u practis meddyg teulu arferol (Nid yw hwn yn cael ei gynnal yn lle’r adolygiad mewn practis meddyg teulu, ond yn hytrach mae’n amlygu'r cleifion hynny sydd ddim yn mynychu adolygiadau blynyddol.  Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth cleifion o reoli symptomau a beth i'w wneud os bydd eu symptomau’n gwaethygu) 
  • >Bydd cleifion nad yw eu COPD/Asthma yn cael ei reoli yn cael eu haddysgu ac, os oes angen neu os yw’n briodol, bydd eu dyfais/therapi yn cael ei newid, drwy weithredu argymhellion ‘Cam Gweithredu Meddyg Teulu’ y fferyllydd 
  • Mae cleifion yn cael dull o hunanasesu a hunanfonitro rheolaeth ar eu COPD/Asthma; efallai y bydd hyn yn helpu i godi disgwyliadau cleifion o ran rheoli a'r effaith bosibl

I'r GIG:

  • Gallai cynnal mwy o adolygiadau leihau anghydraddoldeb o ran gofal COPD/Asthma a gwella canlyniadau, gan gynnwys gwell effaith/rheolaeth ar Asthma/COPD, llai o wastraffu meddyginiaeth, mwy o bresgripsiynu priodol, profiad mwy cadarnhaol/mwy boddhaol i'r claf. 
  • Gallu cael gwerthusiad annibynnol o'r gwasanaeth ar lefel Bwrdd Iechyd a Fferyllfa a chyfle i ymestyn atebion arloesol ar raddfa eang. 
  • Offer i fesur effaith ymyriadau Fferylliaeth Gymunedol, dros amser (ACT/CAT) a thystiolaeth bellach o blaid mabwysiadu ACT/CAT yn gyson ar draws Cymru
  • Mae’n ategu Gofal Iechyd Darbodus/Seiliedig ar Werth a rheolaeth/hunanofal ar ran y claf 

I GSK:

  • Cryfhau Ymddiriedaeth a chael tystiolaeth o weithio mewn modd cydweithredol gyda’r GIG a phartïon eraill er budd y claf, y GIG a GSK drwy roi atebion arloesol ar waith ar raddfa eang.
  • Gallai adolygu cleifion nad ydynt wedi cael eu gweld ers 12 mis arwain at fwy o gyfle i ddefnyddio meddyginiaethau yn y ffordd orau bosib, yn unol â Chanllawiau Presgripsiynu a Rheoli COPD/Asthma Cymru Gyfan / y Bwrdd Iechyd lleol sy'n cynnwys meddyginiaethau GSK yn ogystal â meddyginiaethu gan gwmnïau fferyllol eraill.  (12 wythnos ar ôl cynnal yr adolygiad o anadlyddion, gofynnir i gleifion, drwy gyfrwng PREM, pa gamau a argymhellwyd iddynt eu cymryd a beth oedd y canlyniad)
  • Data i gefnogi mabwysiadu ACT/CAT, yn gyson ar raddfa fawr, yng nghyswllt gofal sylfaenol a gofal eilaidd yng Nghymru fel dull gwerthfawr o fonitro rheolaeth/effaith Asthma/COPD.